Justin Edinburgh (o wefan Casnewydd)
Fe fydd rheolwr newydd Casnewydd yn dechrau ar ei waith ar unwaith, gan gymryd cyfrifoldeb am y tîm ddydd Sadwrn.

Mae Cadeirydd y clwb wedi apelio ar i gefnogwyr ddangos eu cefnogaeth i Justin Edinburgh, cyn amddiffynnwr gyda Spurs sydd wedi rheoli nifer o glybiau bach, gan gynnwys Rushden and Diamonds o Uwch Gynghrair Blue Square.

“Roedd y bwrdd yn credu ei bod yn bwysig gweithredu’n gyflym ar ôl ymadawiad Anthony Hudson a pheidio â gadael i bethau ogordroi,” meddai Chris Blight.

“R’yn ni’n credu taw Justin yw’r ymgeisydd delfrydol ar ôl inni ystyried mwy na 40 o bosibiliadau eraill.

“Mae’n bennod newydd i’r clwb ac r’yn ni’n gobeithio y bydd y cefnogwyr yn ei gefnogi ddydd Sadwrn er mwyn tanio’r tymor ac edrych tua’r dyfodol gyda’n gilydd.”

Y cefndir

Mae Casnewydd wedi cael dechrau gwael iawn i’r tymor ac maen nhw yn y safleoedd i ddisgyn o’r Blue Square.

Roedd Justin Edinburgh wedi chwarae fwy na 200 o weithiau i Spurs ac mae wedi rheoli cyfres o glybiau ers hynny.