Tom Bender (o wefan Colchester United)
Mae un o chwaraewyr ifanc Cymru’n dod ato’i hun yn yr ysbyty ar ôl anaf a roddodd stop ar gêm yn Nhlws y Gynghrair Bêl-droed ddoe.

Fe gafodd Tom Bender, 18 oed, ei daro yn ei ben ar ôl tua 40 munud o’r gêm rhwng Accrington Stanley a Tranmere  Rovers ac fe fu parafeddygon yn ei drin am hanner awr cyn ei symud o’r cae.

Roedd wedi mynd am bêl gyda dau chwaraewr arall ac fe gafodd ei daro yn ei ben gan ei golgeidwad ei hun.

Oherwydd fod yr anaf yn ymddangos mor ddifrifol, fe gafodd y gêm ei hatal a’i gohirio gydag ofnau fod yr amddiffynnwr ifanc wedi gwneud niwed i’w asgwrn cefn.

Bellach, fe ddaeth yn glir mai wedi cael ei daro’n anymwybodol yr oedd ac mae bellach yn gwella.

Bender – y cefndir

Er ei fod wedi ei eni yn Lloegr, fe benderfynodd Tom Bender chwarae i Gymru ac mae wedi cynrychioli’i wlad ar bob lefel hyd at y tîm dan 21.

Mae’n chwarae i Accrington Stanley ar fenthyg o Colchester ac roedd newydd ddechrau ennill ei le yn nhîm cynta’r clwb yng Nghynghrair Dau.