Fydd Aaron Ramsey ddim yn chwarae i Gymru yn erbyn Slofacia nos Sul (Mawrth 24).

Mae Ryan Giggs, rheolwr y tîm cenedlaethol, wedi cadarnhau fod y canolwr wedi gorfod tynnu allan o’r garfan oherwydd anaf i’w glun, a’i fod yn mynd i dderbyn triniaeth dan ofal ei glwb, Arsenal.

Fe fydd Cymru yn chwarae ei hail gêm o fewn wythnos nos fory trwy herio Slofacia yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae hon yn un o’r gemau rhagbrofol ar gyfer pencampwriaethau Ewro 2020.

Fe guron nhw Trinidad a Tobago o gôl i ddim mewn gêm gyfeillgar ar y Cae Ras, Wrecsam, nos Fercher ddiwethaf (Mawrth 20).

“Mae ganddon ni gynllun arall ar gyfer y gêm ddydd Sul, ac mi ydan ni wedi bod yn gweithio arno fo,” meddai Ryan Giggs mewn cynhadledd i’r wasg fore heddiw, wrth gadarnhau fod Aaron Ramsey wedi cael “cnoc” ond mewn hwyliau da,