Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn dweud bod y gêm yn erbyn Trinidad a Tobago yn gyfle i’r to iau greu argraff arno yn absenoldeb tebygol Gareth Bale.

Bydd Cymru’n herio Slofacia yng Nghaerdydd ddydd Sul (Mawrth 24) yng ngêm gyntaf ymgyrch Ewro 2020.

Ond maen nhw’n herio’r tîm o’r Caribî mewn gêm gyfeillgar ar y Cae Ras yn Wrecsam heno (nos Fercher, Mawrth 20).

Sgoriodd Gareth Bale i Real Madrid yn ei gêm lawn gyntaf yn 2019.

“Fel arfer, pan fo Gareth yn sgorio, mae e’n mynd ar rediad felly mae hynny’n dda i ni,” meddai Ryan Giggs. “R’yn ni i gyd yn gwybod am ei ddoniau ac os yw e’n chwarae digon o gemau, mae e’n sgorio goliau.

“Ond dw i hefyd eisiau tynnu’r pwysau oddi arno fe ar yr un pryd os yw e ar gael, fel nad ydyn ni’n dibynnu ar un chwaraewr yn unig.”

Anafiadau

Fydd Sam Vokes, Aaron Ramsey, Ethan Ampadu na Tom Lawrence ddim ar gael heno oherwydd anafiadau.

“Gyda dyfodiad Harry Wilson, David Brooks a Dan James, mae gyda ni gynifer o opsiynau ymsoodol,” meddai Ryan Giggs.

“Dyna dw i eisiau. Ond rhaid cydnabod fod gyda chi chwaraewr arbennig, un o oreuon y byd, a chwarae yn ôl ei gryfderau fe hefyd.”

Mae disgwyl i Ashley Williams fod yn gapten heno wrth ennill cap rhif 84, er nad yw e wedi dechrau gêm i Stoke ers dechrau mis diwethaf.

Fe allai ddod yn gyfartal â Gary Speed ddydd Sul, a chyrraedd rhif tri ar y tabl o chwaraewyr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru.