Jake Speight
Wrecsam 1 Ebbsfleet 0

Edrychais ar y tim heddiw a gweld bod pedwar newid. Roedd Mayebi yn lle Chris Maxwell, Westwood am Knight Percival, Morrell y rheolwr yn lle Pogba a Tolley yn lle Fowler.

Roedd pryder am Mayebi’r golwr ond roedd yn arbennig a bod yn deg, rhaid bwydo hyder iddo a diolch bod dau golwr da gennym pan maen nhw’n hyderus.

Mae’n bryder hefyd gweld bod penglin Fowler yn rhoi problemau iddo eto, gobeithio bydd yn gwella’n fuan. Mwy o bryder fyth yw bod si fod Dean Saunders  am geisio arwyddo Fowler am £20,000.

Gyda chymaint o chwaraewyr yn absennol byddai cefnogwr yn bodloni ar 3 pwynt er gwaetha popeth ond roedd Ebsfleet yn ystyfnig ac yn gweithio’n galed i stopio Wrecsam chwarae.

Roedd yn rhaid cael newidiadau ac felly ymlaen daeth Pogba a Cizzy ac o fewn munudau yr oedd Cizzy wedi ei lorio yn y cwrt cosbi. Yn anffodus i Wrecsam daeth hi yn ffrae rhwng Pogba a Speight dros pwy oedd am gymryd y gic a diolch byth daeth y capten Keates i achub y sefyllfa gan roi y bel i Speight. (Penderfyniad da, yn fy nhyb i.) Digwyddodd hyn i Kettering wythnos yn ôl ble cafodd dau ymosodwr y tim gwffas a cherdyn coch yr un am eu trafferth.

Sgoriodd Speight, ennillodd Wrecsam ac yr ydym yn ôl mewn safle cryf cyn y gem nos Fawrth yn erbyn y tim ar y brig, Gateshead. Bydd Knight Percival yn ôl ond mae Westwood wedi anafu. Gobeithio cawn berfformiad calonogol a 3 phwynt ond bodlonwn ar bwynt a bod yn onest.