Daeth cadarnhad mai Trevor Birch yw cadeirydd newydd Clwb Pêl-droed Abertawe.

Mae’n olynu Huw Jenkins, a gamodd o’r neilltu’n ddiweddar ar ôl 17 o flynyddoedd yn y swydd.

Bydd y cadeirydd newydd yn gyfrifol am faterion pêl-droed a busnes y clwb, ac yn atebol i’r perchnogion Americanaidd, Steve Kaplan a Jason Levien.

Mae gan y Sais o Lerpwl gryn brofiad fel prif weithredwr, gan weithio yn y gorffennol i Chelsea, Everton, Leeds, Sheffield United a Derby.

“Mae record Trevor yn y gêm yn siarad drosti ei hun,” meddai’r perchnogion mewn datganiad.

Mae lle i gredu y bydd yn cydweithio â Kyle Macauley, sy’n gyfrifol am recriwtio chwaraewyr.

‘Sefydlogrwydd’

“Dw i’n deall llawer o’r problemau mae’r clwb wedi eu hwynebu, yn enwedig ar ôl gostwng [o’r Uwch Gynghrair].

“Y gwaith yw ail-gydbwyso’r clwb pêl-droed ac adfer sefydlogrwydd yn y bwrdd rheoli ac ar y cae, yn ogystal â chydweithio â’r Ymddiriedolaeth i sicrhau ein bod ni i gyd yn symud yn yr un cyfeiriad.

“Mae’n gyfle gwych i adeiladu rhywbeth hirdymor yn Abertawe.”