Mae cyn chwaraewr Wrecsam a Chymru dan 21, Simon Spender wedi creu argraff ers arwyddo i'r Seintiau
Roedd nifer o gemau cystadleuol dros ben yn yr Uwch Gynghrair dros y penwythnos. Dyma’r chwaraewyr serennodd i’w clybiau ym marn bois Sgorio:

Golwr

Nick Thomas (Y Drenewydd) – er ildio 17 gôl yn ei dair gêm diwethaf, cadwodd ei arbediadau ei dîm yn y gêm yn erbyn Lido Afan ddydd Sadwrn, wrth i’r Drenewydd ennill am y tro cyntaf ers gêm gynta’r tymor

Amddiffynwyr

Simon Spender (Y Seintiau Newydd) – mae cyn-chwaraewr Wrecsam yn dal i wneud cryn argraff i’r Seintiau ac roedd Spender yn ddylanwadol eto ym muddugoliaeth y tîm sy’n arwain y ffordd ar frig yr Uwch Gynghrair ers pythefnos

Dave Hayes (Prestatyn) – fe gadwodd capten Prestatyn ei dîm yn y gêm a Rhys Griffiths yn dawel am 70 munud yn gêm fyw Sgorio brynhawn Sadwrn. Diffiniwyd perfformiad dewr tîm Neil Gibson gan eu capten, er ildio dwy gôl hwyr yn y diwedd

Stuart Jones (Llanelli) – y capten arall yn y gêm fyw oedd Jones. Ei beniad oedd yn gyfrifol am greu’r ail gôl i’r peiriant sgorio, Rhys Griffiths, ac roedd ei gyfraniad amddiffynnol yn allweddol i’r unig dîm i gadw llechen lân yn y gynghrair yr wythnos hon

Cledan Davies (Caerfyrddin) – mae’r chwaraewr oedd yn wibiwr o asgellwr i Aberystwyth bellach wedi troi’n gefnwr chwith cyflawn i Gaerfyrddin. Roedd ei ddoniau greddfol wrth ymosod i’w gweld yn glir wrth iddo greu trafferth drosodd a thro i Airbus gyda’i rediadau treiddgar

Canol cae

Jason Bowen (Llanelli) – dim ond chwarter y gêm y chwaraeodd Bowen ar ôl dod i’r maes fel eilydd ond os oedd ei gyfraniad yn fychan o ran hyd amser, roedd ei gyfraniad yn anferth i ganlyniad gêm fyw Sgorio ar Erddi Bastion. Ei beniad oedd yn gyfrifol am greu’r gôl agoriadol i Seren y Gêm, Chris Venables,  wrth iddo nesáu at ei ben blwydd yn ddeugain oed

Chris Seargeant (Y Seintiau Newydd) – ar ôl dechrau ansicr i’w gyfnod gyda’r Seintiau, fe chwaraeodd Seargeant ran ym mhob gêm y tymor diwethaf ac mae mab cyn-chwaraewr Everton, Steve Seargeant, yn hynod ddylanwadol y tymor hwn hefyd. Efallai bod perfformiad y Seintiau yn nodweddiadol o dîm â’u hyfforddwr, Carl Darlington, newydd ennill gwobr Rheolwr y Mis, ond fe frwydrodd y Seintiau i fuddugoliaeth yn erbyn Aberystwyth

Shane Sutton (Y Drenewydd) – mae’n ddigon posib y byddai sgoriwr y gôl i ennill tri phwynt cynta’r Drenewydd ers dechrau Awst wedi bod yn nhîm yr wythnos pe tasai’r bêl wedi adlamu oddi ar ei ben-glin i’r gôl. Ond mae Sutton yn sicr yn haeddu ei le yn nhîm yr wythnos ar ôl taro foli wefreiddiol o 30 llath i ennill y pwyntiau yn erbyn Lido Afan

Ymosod

Lee Trundle (Castell-nedd) – wythnos arall ac mae Lee Trundle yn ymddangos eto yn nhîm yr wythnos ond mae’n amhosib peidio enwi cyn-chwaraewr Abertawe ar ôl perfformiadau fel hyn. Yr unig enw dan sylw gan rheolwr Castell-nedd a Phort Talbot ar ôl gêm oedd enw Lee Trundle

Toby Jones (Castell-nedd) – chwaraewr sydd ar begwn gwahanol i’w yrfa i Trundle yw Toby Jones, arwyddodd ei gytundeb proffesiynol cyntaf dros yr haf ar ôl taro llwyth o goliau i Conwy United y tymor diwethaf. Dyw Jones heb ddechrau gêm i Gastell-nedd hyd yma, ond yn dilyn anaf i Craig Hughes yn ystod yr hanner cyntaf nos Wener, cafodd Jones ei gyfle gorau hyd yma i wneud argraff ac fe ddisgleiriodd y blaenwr 19 oed

Jack Christopher (Caerfyrddin) – doedd enw Christopher ddim ar restr sgorwyr Caerfyrddin dros y Sul ac ar ôl gwylio cic rydd wych Nick Harrhy, fe fyddwch chi’n pendroni pam mai Christopher yw’r blaenwr o dîm Tomi Morgan i ennill ei le yn nhîm yr wythnos. Ond am ei berfformiad cyflawn yn dal y bêl i fyny, yn gweu ymosodiadau gyda chyffyrddiadau taclus ac yn ennill popeth yn yr awyr, Christopher sy’n cael ei le yn nhîm yr wythnos

Cofiwch y bydd modd gweld perfformiadau’r chwaraewyr uchod yn fideos uchafbwyntiau Sgorio o holl gemau’r penwythnos yn ein Crynodeb Uwch Gynghrair Cymru yr wythnos hon.