Abertawe 2–3 Man City                                                                   

Roedd sawl penderfyniad dadleuol wrth i Abertawe fynd allan o’r Cwpan FA yn yr wyth olaf yn erbyn Man City nos Sadwrn.

Roedd yr Elyrch ar y blaen am ran helaeth o’r gêm ar y Liberty cyn i ddwy gôl hwyr a dadleuol eu rhoi allan o’r gystadleuaeth.

Rhoddodd Matt Grimes Abertawe ar y blaen o ddeuddeg llath wedi ugain munud ar ôl i Connor Roberts ennill cic o’r smotyn gyda rhediad da i’r cwrt cosbi.

Dyblodd Bersant Celina’r fantais pan grymanodd y bêl heibio i Ederson i gwblhau symudiad tîm gwych gan yr Elyrch.

Cadwodd Abertawe ddwy gôl o fantais cyn yr egwyl diolch i gliriad Roberts oddi ar y llinell ac felly yr arhosodd hi tan ugain munud o’r diwedd.

Dyna pryd y tynodd Man City un yn ôl gydag ergyd greffrus Bernado Silva gyda thu allan ei droed chwith.

Os oedd gôl gyntaf yr ymwelwyr yn un dda, lwcus a oedd y ddwy arall. Gwyrodd cic o’r smotyn hynod ddadleuol Sergio Aguero i gefn y rhwyd oddi ar gefn Kristoffer Nordfeldt.

Ac yna, fe enillodd yr Archentwr y gêm i’r ymwelwyr gyda phlym-beniad gwych, ond un a ddylai fod wedi ei wrthod oherwydd camsefyll.

Torcalon i’r Elyrch felly wrth iddynt golli yn erbyn un o dimau gorau’r byd mewn amgylchiadau hynod anlwcus.

.

Abertawe

Tîm: Nordfelt, Roberts, van der Hoorn, Grimes, Carter-vickers, dyer (Asoro 61’), Fulton (Harries 86’), Byers (John 73’), James, Routledge, Celina

Goliau: Grimes 20’, Celina 29’

.

Man City

Tîm: Ederson, Walker, Otamendi, Laporte, Delph (Zinchenko 57’), Bernardo Silva, Gundogan, silva, Mahrez (Aguero 64’), Gabriel Jesue, Sane (Sterling 57’)

Goliau: A Bernardo Silva 69’ Nordfeldt [g.e.h.] 78’, Aguero 88’

Cerdyn Melyn: Laporte 45+3’

.

Torf: i ddilyn