Casnewydd 1–0 Cheltenham                                                         

Ar wythnos Gŵyl Cheltenham, Casnewydd a aeth â hi wrth iddynt groesawu tîm pêl droed y dref i Rodney Parade yn yr Ail Adran nos Wener.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, daeth unig gôl y gêm yn gynnar yn yr ail hanner pan wyrodd Chris Hussey’r bêl i’w rwyd ei hun.

Gorffennodd yr ymwelwyr y gêm gyda deg dyn wedi i William Boyle dderbyn cerdyn coch am atal cyfle ar gôl i Jamille Matt.

Rhoddodd hynny gyfle i Gasnewydd ymlacio ychydig yn y chwarter awr olaf ac fe ddaliodd tîm Mike Flynn eu gafael.

Mae’r canlyniad yn codi’r Alltudion i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl cyn i’r gweddill chwarae ddydd Sadwrn.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Poole, O’Brien (Pipe 45’), Demetriou, Willmott, Bakinson (Sheehan 45’), Bennett, Butler, Amond, Azeez, Matt (McKirdy 90+4’)

Gôl: Hussey [g.e.h.] 54’

Cardiau Melyn: Sheehan 86’, Matt 87′

.

Cheltenham

Tîm: Flinders, Raglan, Tozer, Boyle, Broom, Dawson (Bingham 64’), Tillson, Clements, Hussey, Varney (Barnett 65’), Waters (Maddox 87’)

Cardiau Melyn: Tozer 33’, Clement 52’, Tillson 70’

Cerdyn Coch: Boyle 75’

.

Torf: 3,192