Rheolwr Stoke - y Cymro Tony Pulis (CCA 3.0)
Gohebydd clwb Abertawe, Guto Llewelyn sy’n edrych ymlaen at herio Stoke ddydd Sul.

Yn dilyn crasfa’r Elyrch yn erbyn Chelsea wythnos ddiwethaf byddent yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r Stadiwm Liberty ar gyfer eu gêm nesaf yn erbyn Stoke.

Nid yw Abertawe wedi colli o flaen eu cefnogwyr cartref ers y 6 Chwefror pan enillodd yr hen elyn, Caerdydd, o gôl i ddim ar y Liberty.

Mae Abertawe wedi amddiffyn yn wych yn y Stadiwm Liberty hyd yma ym mhrif gynghrair Lloegr –  ni fedrodd Wigan, Sunderland na West Brom guro Michel Vorm. Pam ddylai Abertawe ofni unrhyw un gyda record mor drawiadol?

Efallai nad yw Abertawe wedi tanio eto oddi cartref ond maent wedi creu amddiffynfa gadarn ar lan yr afon Tawe.

Stoke yn syfrdanu

Dydd Sul nesaf bydd Tony Pulis yn ceisio dinistrio’r amddiffynfa honno.

Bydd hyfforddwr Stoke yn dychwelyd i’w wlad enedigol gyda’i dîm yn seithfed yn y gynghrair ar ôl dechrau addawol i’r tymor yn y gynghrair ac yn Ewrop.

Penwythnos diwethaf cafodd Stoke gêm gyfartal yn erbyn Manchester United gan sicrhau mai nhw yw’r tîm cyntaf yn Lloegr i beidio colli yn erbyn y pencampwyr cyn belled tymor yma.

Ers i Stoke gael eu  dyrchafu i’r Brif Gynghrair yn 2008 mae eu llwyddiant wedi syfrdanu arbenigwyr a chefnogwyr.

Cymysgedd o gyfoeth cymharol y perchennog a gallu’r hyfforddwr i  ddewis chwaraewyr sydd yn bennaf gyfrifol am ddatblygiad diweddar y clwb. Anaml iawn y mae Pulis wedi denu chwaraewyr sydd heb addasu’n hawdd i arddull anghonfensiynol Stoke.

Mae’r rheolwr o  Gasnewydd yn adnabyddus am ei edmygedd o chwaraewyr mawr, cryf a chorfforol. Stoke sydd â’r tîm trymaf y gynghrair, ond maent hefyd yn awchus a hynod o ddisgybledig.

Mae’r perchennog hael, y dyn busnes lleol Peter Coates, wedi ariannu Pulis yn gyson, gan wybod bod gan ei hyfforddwr gynllun ar gyfer y dyfodol.

Uniongyrchol ac effeithiol

Dros y blynyddoedd diwethaf mae llawer o gefnogwyr, arbenigwyr a hyfforddwyr wedi cwyno am steil uniongyrchol Stoke o chwarae – mae’n sicr yn wahanol i ddull diwylliedig, cyfandirol Abertawe o chwarae.

Nid yw pêl-droed Stoke yn ddeniadol ond mae’n effeithiol dros ben.

Mi fydd Brendan Rodgers yn ymwybodol o gryfderau Stoke – amddiffynwyr rheibus, tafliadau hir Rory Delap ac ymosodwyr sy’n sgorio’n rheolaidd serch prinder cyfleoedd.

Er y bydd hefyd yn ymwybodol eu bod yn tueddu i chwarae llawer yn well yn y Stadiwm Britannia nag oddi cartref. Y tymor diwethaf, dim ond pedair gêm gollodd Stoke yn eu Stadiwm Britannia, tra mai dim ond tair gêm a enillwyd oddi cartref – yn erbyn Blackburn, Newcastle a West Brom.

Anafiadau’n ofid

Fe fydd lled cae’r Stadiwm Liberty yn fantais fawr i Abertawe yn erbyn tîm sy’n chwarae gêm gul iawn.

Yn anffodus i’r Elyrch mae’r absenoldebau’n cynyddu. Nid yw Caulker, Augustien na Tate ar gael, ac mae’n debygol na fydd Leon Britton yn ddigon iach i chwarae yn erbyn Stoke ddydd Sul.

Roedd yn rhaid i Britton golli ail hanner y gêm yn erbyn Chelsea oherwydd anaf i’w gefn. Disgwylir i naill ai Wayne Routledge neu Stephen Dobbie lenwi safle Britton yng nghanol y cae.

Ffitrwydd Matthew Etherington sy’n pryderu cefnogwyr Stoke. Bydd profion yn cael eu cynnal ar asgellwr Stoke cyn y gêm  wedi iddo gael ei orfodi i adael y cae nos Sul yn erbyn Besiktas ar ôl tacl hwyr.

Petai Etherington yn methu’r profion ffitrwydd byddai’n hwb mawr i Abertawe. Etherington yw’r unig asgellwr creadigol sydd gan Stoke, ac mae’n gyfrifol am greu rhan fwyaf o’u cyfleoedd.

Bydd Danny Higgingbotham yn cael ei ystyried gan Tony Pulis am le ar y fainc wedi iddo wella o anaf i’w ben-glin.

Y tro diwethaf i Stoke chwarae oddi cartref, collodd y Crochenwyr o bedair gôl i ddim yn erbyn Sunderland.

Os fydd Abertawe’n chwarae eu gêm naturiol gallent gipio o leiaf pwynt ddydd Sul. Mae’n bosib bydd rhaid bod yn amyneddgar yn erbyn amddiffynwyr digrynedig Stoke, a bydd rhaid bod yn wyliadwrus o’r dechrau i’r diwedd yn erbyn un o dimau mwyaf trefnus Lloegr.

Serch dechrau da Stoke i’r tymor mi fyddaf wedi siomi’n ddifrifol petai Abertawe’n colli ddydd Sul. Mae gan yr Elyrch ddigon o ddawn i sgorio yn erbyn Stoke, ac fel arfer bydd miloedd o Jacs yn yr eisteddleoedd yn bloeddio’u cefnogaeth.