Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn cyfaddef fod diswyddo Darren Moore, rheolwr West Brom, dros y penwythnos yn creu ansicrwydd iddyn nhw heno (nos Fercher, Mawrth 13).

Mae’r Elyrch yn teithio i’r Hawthorns i herio’r tîm sy’n bedwerydd yn y tabl ar hyn o bryd, ac yn brwydro am le yn y gemau ail gyfle, os nad dyrchafiad awtomatig.

Tra eu bod nhw wedi paratoi i herio tîm Darren Moore, fe fyddan nhw’n herio tîm a fydd yng ngofal Jimmy Shan, y rheolwr dros dro.

“A yw’n amser da [i herio West Brom]? Dim syniad. Fe gawn ni weld,” meddai Graham Potter.

“Dyw hi’n sicr ddim yn gwneud pethau’n haws o ran gwybod beth maen nhw’n mynd i wneud, oherwydd mae ganddyn nhw reolwr dros dro.

“O safbwynt gallu darogan, o’n safbwynt ni, dydy pethau ddim yn hawdd.”

‘Synnu’

Wrth drafod y penderfyniad i ddiswyddo Darren Moore, mae Graham Potter yn cyfaddef iddo gael ei synnu.

“Ar lefel bersonol, dwi’n teimlo tristwch drosto fe a Graeme [Jones] a Wayne [Jacobs], oherwydd dydy e ddim yn beth braf pan fo cydweithwyr a ffrindiau yn colli eu swyddi.

“Mae hynny yr un fath i bawb.

“Ond rydyn ni’n gwybod mai busnes canlyniadau yw’r un rydyn ni ynddi ac os nad yw canlyniadau’n ddigon da i’r clwb, yna rydych chi’n gwybod eich bod chi mewn perygl, dim ots pwy ydych chi.

“Mae’n destun siom i Darren, yn enwedig yn sgil y gwaith da wnaeth e ar ddiwedd y tymor diwethaf [wrth geisio cadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair], o safbwynt creu balchder a hygrededd i’r clwb yn yr Uwch Gynghrair, a bron iawn â chyflawni gwyrth.

“Felly mae’n dangos sut gall pethau newid yn gyflym.

“Rhaid i fi gyfaddef i’r peth fy synnu. Does gyda fi ddim syniad beth yw’r sefyllfa fewnol yn West Brom, ond roedd yn syndod oherwydd lle maen nhw yn y gynghrair.

“Ro’n i yn y gêm ddydd Sadwrn [1-1 yn erbyn Ipswich] a doedd hi ddim yn un arbennig o bositif, ond roedd hi’n un sy’n gallu digwydd weithiau.”

Herio Man City

Ar ôl heno, bydd sylw Graham Potter ac Abertawe yn troi at y gêm gwpan fawr yn erbyn Manchester City yn rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.

Ond mae’n dweud bod y naill gêm a’r llall yr un mor bwysig â’i gilydd yng nghyd-destun y tymor.

“Mae un yn gyfle i gyrraedd rownd gyn-derfynol cystadleuaeth fawr, a’r llall yn gyfle i barhau i frwydro [am le yn y gemau ail gyfle] a chadw’r tymor i fynd ac ennill gêm yn y Bencampwriaeth, sy’n bwysig i ni o safbwynt lle’r ydyn ni o ran y tîm a datblygiad ein chwaraewyr.

“Allwch chi ddim blaenoriaethu [un dros y llall] o safbwynt eu pwysigrwydd.”