Tref Port Talbot 1 – 2 Castell Nedd

Castell Nedd oedd yn fuddugol yn yr ornest ddarbi agos yn Stadiwm GenQuip.

Roedd y tîm cartref yn arwain wedi dim ond dwy funud – cyn chwaraewr Caerfyrddin, Sacha Walters yn sgorio.

Er hynny, mae Castell Nedd ar rediad gwych ac roedden nhw’n gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i’w prif sgoriwr eleni, Luke Bowen – ei bumed gôl o’r tymor.

Un o gyn chwaraewyr eraill Caerfyrddin, Paul Fowler gipiodd y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr gan rwydo wedi 63 munud.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Castell Nedd yn yr ail safle gyda phwynt yn llai na’r Seintiau ar y brig, tra bod Port Talbot yn lwcus o gadw eu seithfed safle diolch i ganlyniadau eraill.


Caerfyrddin 3 – 1 Airbus UK Brychdyn

Mae Caerfyrddin wedi codi i’r trydydd safle o’r gwaelod wedi buddugoliaeth bwysig ar Barc Richmond ddydd Sadwrn.

Bydd Tomi Morgan wrth ei fodd i sicrhau ail fuddugoliaeth ei dîm o’r tymor, tra bod Airbus bellach ar waelod yr Uwch Gynghrair.

Yn eironig, yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi 16 diolch i gôl gan Ryan Edwards, ond roedd Caerfyrddin yn gyfartal chwe munud yn ddiweddarach wedi gôl i’w rwyd ei hun gan Adam Worton.

Erbyn yr hanner roedd gan Gaerfyrddin ddwy gôl o fantais – Nick Harrhy yn rhwydo gyda chic rydd wedi 35 munud cyn i Tim Hicks sgorio o’r smotyn funud cyn yr hanner.


Y Drenewydd 2 – 1 Lido Afan

Wedi cyfnod caled mae’r Drenewydd wedi llwyddo i godi oddi-ar droed y tabl gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Lido Afan.

Sgoriodd Shane Sutton gôl gyda dim ond naw munud yn weddill i gipio’r fuddugoliaeth, wedi i gic o’r smotyn Andrew Hill ddod a Lido Afan yn gyfartal wedi 72 o funudau.

Roedd y tîm cartref yn llawn haeddu mynd ar y blaen wedi 9 munud o’r gêm diolch i’r ymosodwr Nick Rushton, ond methodd tîm Bernard Mcnally ag ychwanegu i’w mantais er iddynt reoli’r hanner cyntaf.

Roedd dyfarniad y gic o’r smotyn i Lido Afan yn un dadleuol, ond doedd dim amheuaeth o gwbl am y gôl a’i seliodd hi – ergyd wych o 25 llath gan Sutton.


Y Seintiau Newydd 3 – 2 Tref Aberystwyth

Sicrhaodd y Seintiau eu seithfed fuddugoliaeth o’r bron ar Neuadd y Parc ddydd Sadwrn, ond roedd yn rhaid iddynt weithio’n galed am y pwyntiau yn yr ail hanner.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen diolch i ergyd i gornel uchaf y rhwyd gan yr amddiffynnwr canol Wyn Thomas wedi 12 munud o’r gêm.

Dal i bwyso wnaeth Aber ar ôl hynny, a bu’n rhaid i Paul Harrison yn y gôl i’r Seintiau wneud rhai arbediadau da iawn wrth i’r pwysau gynyddu.

Er hynny, erbyn yr hanner roedd y tîm cartref yn dod nôl mewn iddi ac roedden nhw’n gyfartal ddwy funud cyn yr hanner wrth i Alex Darlington ergydio i’r rhwyd.

O fewn pum munud o’r ail hanner roedd gan y Seintiau ddwy gôl o fantais wrth i Craig Jones a Greg Draper rwydo.

Er tegwch i Aberystwyth, fe wnaethon nhw ymladd yn ôl ac roedden nhw’n ôl yn y gêm wedi 64 munud diolch i’r ymosodwr Lewis Codling.

Ofer oedd eu dygnwch yn y diwedd wrth i’r Seintiau fynd â hi.


Y Bala 1 – 2 Dinas Bangor

Wedi dechrau addawol i’r tymor, collodd Y Bala eu trydedd gêm o’r bron o flaen torf fawr ar Faes Tegid ddydd Sul.

Roedd Bangor ar y blaen wedi dim ond deg munud wrth i Les Davies rwydo i’w dîm.

Rhwydodd cyn ymosodwr Bangor, Lee Hunt, ei gic o’r smotyn eiliadau cyn yr hanner i ddod a’r sgôr yn gyfartal wedi trosedd gan Jamie Brewerton.

Er hynny, yr ymwelwyr oedd y tîm gorau yn yr ail hanner a gôl gan Mark Smyth wedi 67 munud seliodd y mater gan sicrhau eu bod yn codi uwchben Y Bala i’r pedwerydd safle yn y tabl.


Tref Prestatyn 0 – 2 Llanelli

Mae Llanelli yn dal eu tir yn y trydydd safle wedi buddugoliaeth yng ngêm fyw Sgorio o’r penwythnos. Mae adroddiad llawn o’r gêm fan hyn.