Wrecsam 1–3 Barrow                                                                        

Llithrodd Wrecsam i’r trydydd safle yn nhabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl colli gartref yn erbyn Barrow ar y Cae Ras nos Fawrth.

Sgoriodd yr ymwelwyr deirgwaith yn yr hanner cyntaf a rhoddodd hynny fynydd yn rhy uchel i’r Dreigiau i’w ddringo yn yr ail hanner er gwaethaf gôl Kieran Kennedy.

Aeth Barrow ar y blaen wedi dim ond tri munud gyda pheniad Dan Jones cyn i Jacob Blyth ddyblu eu mantais hanner ffordd trwy’r hanner.

Daeth trydedd i’r ymwelwyr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner, Lewis Hardcastle yn ei gwneud hi’n dair i ddim cyn yr egwyl.

Peniodd Kennedy gôl gysur i’r Cymry yn y chwarter awr olaf ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi wrth i dîm Bryan Hughes golli am yr eildro mewn pedwar diwrnod.

Mae’r canlyniad hwn ynghyd â buddugoliaeth Solihull gartref yn erbyn Gateshead yn rhoi Wrecsam yn drydydd yn y tabl, bedwar pwynt o’r brig gyda wyth gêm ar ôl.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Kennedy, Young, Jennings, Lawlor, McGlashan (Stockton 53’), Wright, Tollitt, Oswell (Rutherford 53’), Beavon (Holroyd 76’)

Gôl: Kennedy 77’

Cardiau Melyn: Wright 55’, Young 73’

.

Barrow

Tîm: Dixon, Jones, Jameson, Kay (Barthram 54’ (Molyneuz 59’)), Taylor, Norrington-Davies, Rooney, Hardcastle, Jennings, Angus (Hindle 20’), Blyth

Gôl: Jones 3’, Blyth 24’, Hardcastle 45+4’

Cardiau Melyn: Kay 43’, Dixon 74’, Norrington-Davies 76’

.

Torf: 4,613