Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei bod yn “anodd” atal achosion o drais yn erbyn pêl-droedwyr fel y rhai a gafodd eu gweld dros y penwythnos.

Dioddefodd Jack Grealish (Aston Villa), Chris Smalling (Man U) a James Tavernier (Rangers) ymosodiadau mewn cyfres o ddigwyddiadau dros y penwythnos.

Mae Graham Potter yn siarad o brofiad, yn dilyn ymosodiad ar Aly Keita, golwr Östersund yn ystod gêm yn 2016 pan oedd e’n rheolwr ar y tîm yn Sweden.

Bryd hynny, daeth y gêm yn erbyn Jonkoping Sodra yng nghynghrair Sweden i ben yn gynnar, ac yn gyfartal 1-1.

“Roedd yn ofnadwy i’w wylio,” meddai Graham Potter am yr ymosodiad ar Jack Grealish, capten Aston Villa, yn y gêm ddarbi yn erbyn Birmingham.

“Dw i wedi cael y profiad fy hun yn Sweden. Digwyddodd rhywbeth tebyg i un o’n chwaraewyr ni, ac mae’n ofnadwy i’w weld. Cafodd Aly gryn ysgytwad ar y pryd.

“Mae pethau fel pe baen nhw’n digwydd yn araf bach wrth wylio ar yr ymylon, ac rydych chi’n ddiolchgar wedyn fod yna ddim niwed difrifol.

“Ond rydych chi’n poeni y gallai rhywbeth gwaeth ddigwydd.

“Mae’n rhywbeth na ddylen ni fyth ei weld ar gae pêl-droed, ac yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw fyth yn digwydd eto.”

Cosb?

Y cwestiwn erbyn hyn yw sut i gosbi clybiau yn sgil digwyddiadau o’r fath, wrth i’r awdurdodau yn Lloegr addo cynnal ymchwiliad.

“Dyw e ddim yn beth braf ar gae pêl-droed nac ar y stryd,” meddai Graham Potter, cyn ychwanegu bod cosbi’r fath ddigwyddiadau yn “anodd”.

“Rydych chi eisiau i’r stadiwm fod yn agored heb ffens, ond y realiti yw na allwch chi blismona’r peth fel nad oes modd i unrhyw un o gwbl gael mynediad i’r cae.

“Mae’n her i’r gymdeithas gyfan, nid dim ond y byd pêl-droed.

“Ond mae’n rhywbeth y mae angen i ni sicrhau nad yw’n digwydd eto.

“Os oes gan rywun fwriad neu ddymuniad i wneud rhywbeth o’r fath, mae’n anodd ei stopio.

“Y cyfan allwch chi ei wneud yw sicrhau nad yw’r person hwnnw’n cael mynd i gêm bêl-droed byth eto.”