Mae buddugoliaeth tîm pêl-droed Caerdydd dros West Ham yn dangos bod y garfan yn unedig, yn ôl y rheolwr Neil Warnock.

Roedd ei dîm dan bwysau eto fyth yn ddiweddar ar ôl colli tair gêm o’r bron.

Mae’r fuddugoliaeth ddiweddaraf, diolch i goliau Junior Hoilett a Victor Camarasa, yn eu gadael nhw ddau bwynt islaw’r safleoedd diogel.

Ac roedd nifer o sylwebyddion, gan gynnwys y ddau gyn-chwaraewr Danny Gabbidon a Nathan Blake, yn cwestiynu ysbryd y garfan, gan awgrymu fod yna “rwyg” yn yr ystafell newid.

“Dw i’n credu bod y bois hyd yn oed yn crybwyll ‘carfan ranedig’ a ‘theilchion’ a phopeth sydd wedi cael ei ddweud yr wythnos hon,” meddai Neil Warnock.

“Ond dydych chi ddim yn cael perfformiadau fel yr un hwnnw gyda charfan ranedig.

“Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n wych, o un i 11 a’r eilyddion.

“Dw i ddim yn credu bod yna wendid.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi gweithio’n galed yr wythnos hon wrth ymarfer, ac fe wnaethon ni elwa.”