Carl Darlington
Mae hyfforddwr Y Seintiau Newydd Carl Darlington wedi ei enwi yn Rheolwr y Mis yn Uwchgynghrair Pêl Droed Cymru am y cyfnod o  fis Awst i fis Medi.

Wedi dechreuad sigledig ym mis Awst, gem gyfartal yn erbyn Y Bala a cholli i Bort Talbot, mae’r Seintiau wedi mynd ymlaen i ennill saith gem o’r bron gan drechu Llanelli, Bangor a Chastell Nedd sydd oll a gobeithion o godi tlws yr Uwchgynghrair ar ddiwedd y tymor.

Yn ogystal â hyn mae’r Seintiau Newydd wedi curo Airbus oddi cartref ynghyd a Phrestatyn a Lido Afan ar Neuadd y Parc.

Fe enwyd ymosodwr Llanelli, Rhys Griffiths yn chwaraewr y mis.

Sgoriodd un ar ddeg gol, naw ym mis Medi gan gynnwys dwy trithro yn erbyn y Drenewydd a’r Bala.

Rhys Griffiths yw prif sgoriwr yr Uwchgynghrair am y chwe blynedd diwethaf.