Wrecsam 1–0 Chesterfield                                                             

Daeth dros saith mil o dorf i’r Cae Ras brynhawn Sadwrn i weld Wrecsam yn aros ar frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugoliaeth dros Chesterfield.

Roedd un gôl yn ddigon i gipio’r tri phwynt i’r Dreigiau a daeth honno gan Akil Wright toc wedi’r awr.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe aeth hi’n fwyfwy tebygol y byddai un gôl yn ei hennill hi ac yn ffodus i’r tîm cartref, Wright a gafodd honno, yn penio i gefn y rhwyd o groesiad Luke Young

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw tîm Bryan Hughes ar frig y tabl gyda deg gêm i fynd ond mae gan Solihull a Leyton Orient sydd yn ail a thrydydd gemau wrth gefn.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Jennings, Pearson, Rutherford, Young, Kennedy, Lawlor, Walker, Wright, Beavon (Oswell 66’), Tollitt (Holroyd 81’)

Gôl: Wright 62’

Cerdyn Melyn: Pearson 45’

.

Chesterfield

Tîm: Jalal, Binnom-Williams, Evans, Weston, Yarney, Hollis, Chapman (Reid 81’), Weir (Shaw 70’), Smith, Fortune (Denton 60’), Boden

Cardiau Melyn: Jalal 63’, Yarney 71’

.

Torf: 7,106