Wolves 2–0 Caerdydd                                                                       

Mae Caerdydd yn aros yn nhri isaf Uwch Gynghrair Lloegr wedi iddynt golli yn erbyn Wolves oddi cartref yn Molineux brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y tîm cartref y ddwy gôl holl bwysig o fewn dau funud i’w gilydd yn yr hanner cyntaf, un yr un i Jota a Jimenez.

Gorffwysodd Wolves sawl chwaraewr dewis cyntaf ar gyfer y gêm hon ond wnaeth hynny ddim llawer o wahaniaeth wrth iddynt fynd ar y blaen wedi chwarter awr, Diogo Jota’n gorffen yn daclus wedi cyd chwarae da gyda Raul Jimenez.

Yr un ddau chwaraewr a gyfunodd ar gyfel ail y Bleiddiaid ddau funud yn ddiweddarach, Jota’n creu y tro hwn a Jimenez yn rhwydo.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ac yn wir felly yr arhosodd hi tan y chwiban olaf.

Mae’r canlyniad yn cadw tîm Neil Warnock yn y tri isaf, yn y deunawfed safle gyda naw gêm i fynd.

.

Wolves

Tîm: Ruddy, Bennett, Coady, Boly, Traore (Cavaleiro 75’), Dendonker, Saiss, Gibbs-White (Moutinho 64’), Vinagre, Jimenez, Jota (Dohoerty 47’)

Goliau: Jota 16’, Jimenez 18’

Cerdyn Melyn: Bennett 34’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Bamba (Ecuele Manga 45+2’), Bennett, Gunnarsson, Camarasa, Ralls, Reid (Paterson 59’), Zohore, Niasse (Healey 76’)

Crdiau Melyn: Bamba 45+1’, Peltier 62’

.

Torf: 31,309