Abertawe 2–0 Bolton                                                                        

Sgoriodd Abertawe ddwy gôl hwyr ar y Liberty wrth guro naw dyn Bolton yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Cafodd Noone a Wheater eu hanfon oddi ar y cae i’r ymwelwyr cyn i goliau McBurnie a Celina ennill y gêm i’r Elyrch yn y deg munud olaf.

Abertawe a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ond methodd Oli McBurnie gyfle euraidd i’w rhoi ar y blaen gyda chic o’r smotyn.

Gorffennodd Bolton yr hanner cyntaf gyda deg dyn wedi i gyn chwaraewr Caerdydd, Craig Noone, dderbyn dau gerdyn melyn mewn cyfnod o ddeg munud.

Aeth y deg yn naw ddeunaw munud o ddiwedd y naw deg pan gafodd Wayne Routledge ei lorio gan David Wheater ag yntau’n glir ar y gôl.

Roedd yn rhaid i’r Elyrch sgorio wedi hynny a dyna a wnaethant ddeg munud o’r diwedd pan rwydodd McBurnie wedi i Courtney Baker-Richardson benio’r bêl i’w lwybr yn y cwrt cosbi.

Ychwanegodd Bersant Celina’r ail yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wedi gwaith creu Dan James ac roedd y tri phwynt yn ddiogel.

Mae’r canlyniad yn rhoi tîm Graham Potter yn y trydydd safle ar ddeg gyda deuddeg gêm ar ôl, chwe phwynt o’r gemau ail gyfle.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Naughton, van der Hoorn, Carter-Vickers, Roberts (Baker-Richardson 76’), Byers (Celina 69’), Grimes, Dyer (Fulton 87’), James, Routledge, McBurnie

Goliau: McBurnie 80’, Celina 90+2’

Cerdyn Melyn: Fulton 90+5’

.

Bolton

Tîm: Matthews, Olkowski, Wheater, Beevers, Connolly, Ameobi, O’Neil, Connell (Murphy 70’), Noone, Magennis (Buckley 56’), Donaldson (Hobbs 76’)

Cerdyn Melyn: Noone 34’

Cardiau Coch: Noone 43’, Wheater 73’

.

Torf: 17,880