Mae un o’r geiriau sy’n diffinio tref Caernarfon wedi cyrraedd un o gylchgronau pêl-droed mwyaf adnabyddus y byd.

Yn rhifyn 17 o’r cylchgrawn Mundial mae eitem ar gefnogwyr clwb pêl-droed Caernarfon ar ôl i un o’i newyddiadurwyr deithio i un o gemau oddi gartref gyda’r Cofi Armi.

Mae’n ymddangos bod y gair “Cont” a diwylliant pêl-droed yn benodol Caernarfon wedi dal diddordeb y cylchgrawn sydd yn denu darllenwyr ar draws y blaned.

‘Pam eich bod yn caru pêl-droed’

Cylchrawn sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant y byd pêl-droed yw Mundial gan edrych ar holl elfennau’r chwaraeon fel steil, hunaniaeth, y teithio, y dillad a’r pethau eraill sy’n amgylchynu byd y bêl gron.

“Rydym yn pwyntio lens eang ar yr hyn sy’n digwydd ar draws y byd, ac yn eich atgoffa pam eich bod yn caru pêl-droed ar bob tudalen,” mae’n dweud ar eu gwefan.

Y Cofi Armi a’i ieithwedd fydd yn cael eitem yn y rhifyn ddiweddaraf, o dan y teitl “Be ti’n neud yma Cont?” (sic)

Dydi hi ddim yn synod bod cefnogwyr Caernarfon yn cael y sylw wrth feddwl am y diwylliant bêl-droed unigryw yn y dref, ac o ganlyniad i awch y Cofi Army.

Roedd torf o 1,006 i gêm gartref diwethaf y Caneris yn yr Oval yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Lun (Chwefror 25), pan gollon nhw 0-3.