Gohebydd clwb Abertawe, Guto Llewelyn sy’n pwyso a mesur buddugoliaeth Abertawe yn erbyn Stoke ddoe…

Mae ‘na enw anghyfarwydd yn hanner uchaf tabl Prif Gynghrair Lloegr:  Abertawe!

Enillodd Abertawe o ddwy  gôl i ddim yn erbyn tîm  hynod gorfforol  Stoke  yn y Stadiwm Liberty ddydd Sul.

Yr Elyrch yw’r clwb cyntaf yn hanes y gynghrair i beidio ag ildio gôl yn eu pedwar gêm gartref gyntaf ar ôl dyrchafiad, credwch neu beidio.

Yn dilyn y fuddugoliaeth galonogol yn erbyn Stoke, nid yw tîm Brendan Rodgers wedi colli gêm gartref ers i’r hen elyn, Caerdydd, ennill yno ar 6 Chwefror.

Brwydro

Bu’n rhaid i Abertawe frwydro am y pwyntiau yn erbyn tîm Stoke, sy’n enwog am chwarae pêl-droed uniongyrchol dan reolaeth y Cymro, Tony Pullis.  Fe a’u harweiniodd i’r Brif Gynghrair yn 2008.

Cyn y gêm ofnai cefnogwyr Abertawe y byddai tîm o gewri Stoke yn bwlio corachod Abertawe. Wedi’r cyfan, wythnos diwethaf cafodd Stoke gêm gyfartal yn erbyn y pencampwyr, Manchester United, drwy eu curo yn y gêm gorfforol.

Cyn dechrau’r gêm credwn y buasai chwaraewyr cryf megis Woodgate, Huth, Jerome a Delap yn rhwystro chwaraewyr creadigol Abertawe rhag chwarae’r pêl-droed pert sydd wedi codi’r clwb i’r 10ed safle yn y tabl.

Byddarwyd cefnogwyr Stoke cyn y gêm gan ganu brwdfrydig y cefnogwyr cartref. Ar ôl bron i wyth mis heb weld Abertawe’n colli ar gae’r Liberty, pam na ddylai’r cefnogwyr fod yn hyderus?

Roeddwn yn disgwyl gêm agos, heb lawer o gyfleoedd i’r naill dîm na’r llall, gyda Stoke yn anelu’r peli hir tuag at eu ymosodwyr yn gyson ac Abertawe’n pasio’r bêl yn amyneddgar.

Serch holl ymdrechion yr ymwelwyr i ladd y gêm, Abertawe ddechreuodd orau, ac o fewn y ddeng munud gyntaf roedd yr Elyrch ar y blaen. Tacl hurt Shawcross ar Routledge alluogodd  Sinclair i rwydo o’r smotyn yn yr ail gêm gartref yn olynol.

Dim ond un tîm oedd yn ceisio chwarae pêl-droed technegol. Tra bod Abertawe yn rheoli’r meddiant trwy basio’r bêl yn gelfydd, parhaodd Stoke i geisio creu cyfleodd trwy daro’r bêl yn obeithiol i gyferiad chwaraewr tala’r Brif Gynghrair, Peter Crouch.

Synnwyd ambell gefnogwr mai Garry Monk oedd yn penio’r mwyafrif o beli hir Stoke ac nid Crouch, er bod  capten Abertawe yn hen gyfarwydd â’r fath arddull ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn chwarae yn is-gynghreiriau Lloegr.

Chwarae brwnt

Yn fy marn i, y cynghreiriau is yw’r lle addas ar gyfer  dulliau Stoke o chwarae.

Buasai cefnogwyr Stoke yn fy ngalw’n ymhongar am awgrymu’r fath beth, yn enwedig gan fod fy nhîm i’n newydd i’r gynghrair.

Ar ben hyn,  credaf fod dulliau Tony Pulis o hyfforddi yn peryglu diogelwch gwrthwynebwyr.

Dylid bod wedi anfon Wilkinson a Crouch o’r cae am ddau dacl afiach ar Nathan Dyer a Garry Monk. Y tro diwetha i mi weld tacl oedd yn debyg i un Wilkinson ar Dyer oedd ar WWE!

Rhedodd yr amddiffynnwr tuag at Dyer cyn rhwymo ei goesau o gylch ei gorff a’i fwrw i’r llawr. Pum munud yn ddiweddarach plannodd Crouch ei droed ar glin Monk, ac ni ddangoswyd y garden goch.

Cyfleoedd yn brin

Roedd y ddau dîm yn chwarae’n amddiffynnol iawn, felly ni welwyd llawer o gyfleoedd am weddill y gêm.

Arbedodd Michel Vorm yn wych o ergyd trafferthus ymosodwr Stoke, Jon Walters, yn yr hanner cyntaf.  Yn yr ail hanner tarodd Glen Whelan y postyn o gic-rydd i Stoke.

Gyda phum munud yn weddill sgoriodd Danny Graham i’w glwb newydd am y tro cyntaf, i gadarnhau buddugoliaeth werthfawr i  Abertawe.

Taclodd Graham gyn-amddiffynwr Lloegr, Jonathan Woodgate, cyn codi’r bêl yn daclus dros y gôl-geidwad, Begovic. Glaniodd y bêl yn y rhwyd a neidiodd y cefnogwyr.  Er mawr ryddhad i’r Jacs yn y stadiwm, roedd eu hymosodwr newydd wedi sgorio o’r diwedd.

Methodd Stoke eu cyfle olaf i sgorio, a gyda’r chwiban olaf, dathlodd cefnogwyr Abertawe. Chwaraeodd y tîm cyfan yn wych er roedd Nathan Dyer, Joe Allen a Garry Monk yn serennu.

Gwers i Pulis?

Gobeithiaf fod Tony Pulis yn dysgu gwers ar ôl gweld Abertawe’n curo’i dîm gyda steil a hunan-barch.

Mae’r hyfforddwr o Gasnewydd yn gyfrifol am greu bwystfil erchyll –  ond, gwaetha’r modd, nes eu bod yn cael eu cosbi’n heiddianol gan ddyfarnwyr, disgwylaf iddynt barhau i ddefnyddio’u dulliau hunanol.

Mae dwy gêm nesaf Abertawe yn Norwich a Wolverhampton – dau le lle gall yr Elyrch ennill eu pwyntiau cyntaf oddi cartref.

Mae pawb yn bositif iawn unwaith eto ar ôl dechrau cymysg i’r tymor.