MK Dons 2–0 Casnewydd                                                               

Y tîm cartref a aeth â hi wrth i Gasnewydd ymweld â Stadium MK yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn. Cisse ac Anake a sgoriodd y goliau wrth i’r MK Dons ennill y gêm yn yr ail hanner.

Fe ddylai Kieran Agard fod wedi rhoi’r tîm cartref ar y  blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ond cafodd ei gic o’r smotyn ei harbed gan Joe Day.

Fe ddaeth y gôl agoriadol y Dons toc cyn yr awr, Ousseynou Cisse yn penio o groesiad Conor McGrandles.

Dyblodd Chuks Aneke y fantais funud o ddiwedd y naw deg ac roedd y tri phwynt yn ddiogel.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Mike Flynn yn y pymthegfed safle, wyth pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

MK Dons

Tîm: Moore, Brittain, Walsh, Baudry (Houghton 50’), Lewington, Cisse, Gilbey, McGrandles, Wheeler (Aneke 58’), Agard, Hesketh (Harley 84’)

Goliau: Cisse 57’, Aneke 89’

Cerdyn Melyn: Gilbey 70’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Willmott, Poole, O’Brien, Demetriou, Butler, Bakinson (Azeez 63’), Dolan (McKirdy 76’), Bennett, Matt, Amond (Kennedy 63’)

.

Torf: 6,984