Abertawe 4–1 Brentford                                                                 

Mae Abertawe yn wyth olaf y Cwpan FA ar ôl trechu Brentford yn y bumed rownd ar y Liberty brynhawn Sul.

Roedd yr Elyrch ar ei hôl hi ar hanner amser ond tarodd tîm Graham Potter yn ôl yn yr ail hanner gan ei hennill hi’n gyfforddus gan sgorio pedair gôl.

Brentford a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ac fe aethant ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae. Ildiodd Abertawe’r meddiant yn hanner Brentford wedi pas lac Connor Roberts a gyda rhai o’r amddiffynwyr allan o’u safleoedd fe wrthymosodd yr ymwelwyr yn slic i greu gôl daclus i Ollie Watkins.

Dechreuodd yr Elyrch yr ail hanner ar dân gyda Bersant Celina a Daniel James yn creu hafoc ac roeddynt yn gyfartal o fewn pum munud. Tarodd cic rydd Celina yn erbyn y postyn ond gwyrodd i gefn y rhwyd oddi ar gefn y gôl-geidwad, Luke Daniels.

Roedd Abertawe ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach diolch i gôl unigol wych gan James. Enillodd y meddiant ar ochr ei gwrt gosbi ei hun cyn rhedeg fel mellten i’r cwrt cosbi arall a tharo ergyd gywir i gefn y rhwyd.

Cyflymder neilltuol yr asgellwr a arweiniodd at gerdyn coch i Ezri Konsa ar yr awr hefyd, dim dewis ond ei lorio gan yr amddiffynnwr a’r ymwelwyr i lawr i ddeg dyn gyda hanner awr i fynd.

Ychwanegodd Celina y drydedd yn fuan wedi hynny yn dilyn rhediad penderfynol o’r asgell chwith ac roedd y Cymry’n llwyr reoli.

Roedd Roberts yn meddwl ei fod wedi rhwydo’r bedwaredd yn dilyn rhagor o waith da gan Celina ond cafodd y gôl ei hatal gan benderfyniad gwarthus y dyfarnwr cynorthwyol.

Fe gafodd yr Elyrch bedwaredd yn y diwedd serch hynny, ym munud olaf y naw deg, George Byers yn gorffen yn gelfydd yn dilyn gwaith creu’r ddau chwaraewr gorau ar y cae, James a Celina.

Ail hanner anhygoel ar y Liberty felly a’r Cymry yn yr het ar gyfer y rownd go-gynderfynol am yr ail dymor yn olynol.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts (Harries 90+1’), van der Hoorn, Carter-Vickers, Naughton, Fulton, Grimes, Byers, James (Asoro 90+3’), McBurnie (Baker-Richardson 76’), Celina

Goliau: Daniel [g.e.h.] 49’ James 51’, Celina 66’, Byers 90’

Caridau Melyn: van der Hoorn 56’, Celina 68’

.

Brentford

Tîm: Daniels, Konsa, Jeaniver, Barbet, Canos (Da Silva 68’), Mikotjo (McEachran 78’), Sawyers, Odubajo, Watkisn, Mauoat, Benrahma (Kirk 69’)

Gôl: Watkins 28’

Cardiau Melyn: Barbet 5’, Konsa 48’, Sawyers 88′

Cerdyn Coch: Konsa 61’

.

Torf: 11,261