Andy Morrell
Wrecsam 1  Ebbsfleet United 0

Nid yw’n ymddangos fod Wrecsam yn gweld colli Dean Saunders wrth i’r chwaraewr-reolwr Andy Morell sicrhau ei ail fuddugoliaeth wrth y llyw.

Cael a chael oedd hi serch hynny ac nid oedd hwn yn berfformiad gwych gan y tîm cartref. Dim ond un cyfle o werth a grëwyd ganddynt yn yr hanner cyntaf ond taro’r postyn a wnaeth peniad Mark Creighton.

Yn wir, gêm ddiflas oedd hi am 70 munud cyn i Ebbsfleet ddeffro hanner ffordd trwy’r ail hanner a dechrau creu cyfleuon, tri mewn pum munud. Ond methu manteisio ar y cyfleoedd hynny oedd eu hanes a bu rhaid iddynt dalu’n ddrud am hynny wrth i Wrecsam sgorio unig gôl y gêm yn fuan wedyn.

Penderfynodd Morell dynnu ei hun oddi ar y cae a gwnaeth ei eilydd Adrian Ciezlewicz argraff yn syth. Aeth ar rediad gwych lawr y dde cyn cael ei lorio gan Yado Mambo yn y cwrt cosbi ac ennill cic o’r smotyn i’w dîm. Bu trafodaeth ddwys rhwng Pogba a Keates er mwyn penderfynu pwy oedd i gymryd y gic ond wedi hynny i gyd camodd Jake Speight at y sbotyn a sgorio’n hyderus, 1-0 gyda chwarter awr yn weddill.

Nid perfformiad gorau’r Dreigiau’r tymor hwn ond digon i sicrhau’r triphwynt a digon i’w codi i’r 3ydd safle yn y gyngres.