Stadiwm KC, 3pm, 01/10/2011

Roedd gan Caerdydd ddigon o broblemau o ran anafiadau i ymosodwr ar ddechrau’r gêm hon yng ngogledd ddwyrain Lloegr gyda Craig Conway, Robert Earnshaw a Rudy Gestede i gyd yn absennol. A gwaethygodd pethau yn fuan iawn wedi’r gêm ddechrau wrth i Kenny Miller orfod gadael y cae gydag anaf ar ôl 9 munud yn unig.

Roedd Caerdydd yn wan yn yr hanner cyntaf a chawsant eu cosbi wrth i Matty Fryat roi Hull ar y blaen 7 munud cyn yr egwyl.

Ond mae’n rhaid bod Malcy Mackay wedi dweud ei ddweud yn yr ystafell newid achos roedd Caerdydd dipyn gwell yn yr ail hanner. Y chwaraewr ifanc, Joe Ralls ddaeth ymlaen fel eilydd yn lle Miller yn yr hanner cyntaf ac roedd hi’n stori tylwyth teg i’r bachgen dwy ar bymtheg wedi awr o chwarae. Sgoriodd gôl wych yn ei gêm gyntaf, ddau ddiwrnod yn unig ar ôl arwyddo cytundeb proffesiynol gyda’r clwb ddydd Iau.

Roedd Caerdydd yn meddwl eu bod wedi ennill cic o’r smotyn yn fuan wedyn wedi i Jack Hobbs lorio Filip Kiss yn y cwrt cosbi. Chwibanodd Colin Webster i roi cic o’r smotyn i’r Adar Gleision, ond yn dilyn protestio gan chwaraewyr Hull ac ymgonghoriad gyda’i ddyfarnwr cynorthwyol newidiodd ei feddwl!

Ac os nad oedd chwaraewyr Caerdydd wedi’u cythruddo ddigon yn dilyn y penderfyniad dadleuol hwnnw, rhoddwyd halen yn y briw wrth i Hull fynd ar y blaen ychydig funudau yn ddiweddarach. Ac eilydd a lwyddodd i greu argraff i Hull hefyd, ond eilydd dipyn hŷn y tro hwn sef y bytholwyrdd, Nicky Barmby yn sgorio gyda’i gyffyrddiad cyntaf yn dilyn gwaith da gan un o chwaraewyr gorau’r gêm, Robbie Brady sydd ar fenthyg o Manceinion Unedig.

Amlygwyd problemau anafiadau Caerdydd unwaith eto wrth i Malcy Mackay ddod â’r amddiffynnwr Ben Turner ar y cae fel ymosodwr gyda 5 munud o’r 90 yn weddill. Roedd yna 5 munud ychwanegol hefyd wedi hynny ond er ymdrechu’n lew methodd Caerdydd greu unrhyw gyfle o werth yn y deg munud olaf hwnnw.

Caerdydd ddim yn gwneud digon oddi cartref felly ac yn llithro i’r wythfed safle yn y gyngrhair ond gallant deimlo’n rhwystredig iawn gyda chyfraniad y dyfarnwr yn y canlyniad hwn.