Casnewydd 1–0 Mansfield                                                             

Arwr y Cwpan, Robbie Willmott, a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Gasnewydd ennill eu gêm Ail Adran yn erbyn Mansfield ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Chwarter awr yn unig a oedd ar y cloc pan darodd yr asgellwr ergyd gadarn i do’r rhwyd i roi ei dîm ar y blaen.

Felly yr arhosodd hi wedi hynny er i Krystian Pearce ddod yn agos at gipio pwynt i’r ymwelwyr pan wastraffodd gyfle da ym munud olaf y gêm.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl, wyth pwynt o’r safleodd ail gyfle.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Demetriou, Poole, O’Brien, Willmott (Dolan 88’), Bakinson, Bennett, Labadie, Butler, Matt, Amond

Gôl: Willmott 15’

Cardiau Melyn: Amond 81’, Labadie 90+11’

.

Mansfield

Tîm: Smith, Preston, Pearce, Sweeney, Hamilton, Mellis, Bishop, Grant, Benning (Jones 45’), Walker, Ajose (Rose 45’ (Tomlinson 59’))

Cardiau Melyn: Sweeney 37’, Benning 42’, Pearce 90’

.

Torf: 3,133