Wrecsam 1–0 Dagenham & Redbridge                                     

Roedd buddugoliaeth i Brian Hughes yn ei gêm gyntaf wrth y llyw yn Wrecsam wrth i Dagenham & Redbridge ymweld â’r Cae Ras yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, bu rhaid aros tan yr ugain munud olaf am unig gôl y gêm, Stuart Beavon yn rhwydo ar ôl dod i’r cae fel eilydd i gipio’r tri phwynt i’r Dreigiau.

Roedd hi’n ddiwrnod da i Wrecsam ar y cyfan gan mai nhw a Solihull a oedd yr unig ddau dîm o’r pump uchaf i ennill. Mae’r canlyniad felly yn eu codi i’r trydydd safle y y tabl, ddau bwynt o’r brig.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Jennings, Wright, Young (Carrington 90’), Pearson, Walker, Tollitt, Lawlor, Stockton (Beavon 57’), Grant (Rutherford 57’)

Gôl: Beavon 74’

Cerdyn Melyn: Walker 20’

.

Dagenham & Redbridge

Tîm: Justham, Nunn, Clark, Wright, Goodliffe (Harfield 80’), Onariase, Gordon, Loft (McQueen 80’), Robinson, Reynolds, Wilkinson (Kandi 46’)

.

Torf: 5,366