Wrecsam 1 Ebbsfleet 0

Mae Wrecsam yn ôl yn y trydydd safle yn Uwch Gynghrair y Blue Square ar ôl ennill mewn gêm wael ar y Cae Ras.

Cic o’r smotyn tua hanner ffordd trwy’r ail hanner oedd y trobwynt, a Jake Speight yn sgorio’n awdurdodol.

Cyn hynny, prin iawn oedd y cyfleoedd gyda thîm Andy Morrell yn ceisio dod tros y golled gawson nhw ganol yr wythnos.

Fe fu’n rhaid i’r golwr, Mayebi, wneud mwy nag un arbediad da i gadw’r Dreigiau ynddi.

Penderfyniad da gan Morrell

Fe fydd Morrell yn falch o un o’i benderfyniadau yntau. Bedwar munud cyn y gôl roedd y rheolwr dros dro wedi anfon yr asgellwr Pwylaidd, Adrian Cieslewicz, i’r maes yn ei le ef ei hun, a bagliad arno ef a arweiniodd at y gic o’r smotyn.

Ar ôl hynny, fe gafodd Wrecsam eu cyfnod gorau, gan chwarae’n llawn hyder.