Casnewydd 2–0 Middlesbrough                                                  

Bydd Casnewydd yn wynebu Man City ym mhumed rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Middlesbrough yn y gêm ail chwarae bedwaredd rownd ar Rodney Parade nos Fawrth.

Robbie Willmott a Padraig Amond a sgoriodd y goliau holl bwysig wrth i’r Alltudion sicrhau buddugoliaeth gofiadwy ar noson wlyb yn y de ddwyrain.

Er bod 57 safle yn gwahanu’r ddau dîm yn y gynghrair bêl droed, nid oedd arwydd o hynny wrth i Gasnewydd o’r Ail Adran lwyr reoli’r hanner cyntaf yn erbyn Middlesbrough o’r Bencampwriaeth. Cafodd y tîm cartref lu o gyfleoedd ond di sgôr a oedd pethau wrth droi.

Newidiodd hynny funud a hanner wedi’r egwyl wrth i Willmott agor y sgorio, yn cario’r bêl o’r llinell hanner cyn taro ergyd o ugain llath a oedd yn ormod i ddwylo menyn Dimi Konstantopoulos yn y gôl.

Dyblwyd y fantais hanner ffordd trwy’r ail hanner pan orffennodd Amond yn wych i’r gornel uchaf o gic gornel bostyn agosaf Willmott.

Gwobr Mike Flynn a’i dîm am y fuddugoliaeth enwog hon yw gêm yn erbyn tîm gwell fyth yn y rownd nesaf, un o’r timau gorau yn y byd, Man City.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Poole, O’Brien, Demetriou, Willmott (Pipe 86’), Bennett, Bakinson, Labadie (Dolan 74’), Butler, Amond, Matt

Goliau: Willmott 47’, Amond 67’

.

Middlesbrough

Tîm: Konstantopoulos, Ayala, Flint, Fry, Mcnair (van la Parra 45’), Howson, Clayton, wing, Friend, Hugil (Gestede 57’), Assombalonga (Fletcher 61’)

.

Torf: 6,552