Does dim lle i’r Cymro Daniel James yng ngharfan Abertawe ar gyfer yr ornest yn erbyn Bristol City yn y Bencampwriaeth ym Mryste heddiw.

Roedd disgwyl y byddai’n mynd ar fenthyg i Leeds ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ddydd Iau (Ionawr 31), ond fe dynnodd yr Elyrch yn ôl o’r trafodaethau ar yr unfed awr ar ddeg.

Roedd y Cymro eisoes yn Elland Road ar gyfer prawf meddygol, ac fe fu’n rhaid iddo aros ychydig oriau cyn cael gwybod na fyddai’n cael ymuno â’r clwb.

Mae dyfalu fod y Cymro eisiau gadael y clwb, ac mae ei asiant wedi beirniadu’r perchnogion yn dilyn yr helynt.

Yn y cyfamser, mae Tom Carroll ar y fainc i Aston Villa yn erbyn Reading, a Jefferson Montero ar y fainc i West Brom yn erbyn Middlesbrough. Symudodd y ddau o’r Elyrch ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.