Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Ledley, wedi penderfynu gadael Derby County er mwyn “parhau” gyda’i yrfa bêl-droed.

Roedd y chwaraewr, sy’n 32 oed, yn  rhwystredig gyda’r diffyg cyfleon ar y cae dan y rheolwr Frank Lampard.

Dim ond pedair gwaith mae o wedi chwarae i’r clwb sy’n chweched yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Daeth a’i gytundeb i ben ar ddiwrnod olaf y ffenest trosglwyddo chwaraewyr ddoe (Dydd Iau, Ionawr 31).

Wrth i Joe Ledley adael, ymunodd ei gyd Gymro Andy King o Gaerlŷr ar fenthyg.

“Dw i erioed wedi bod y math o berson a all eistedd a gwylio pêl-droed a pheidio â bod yn chwarae yn wythnosol,” meddai Joe Ledley ar Twitter.

“Rwy’n gwneud y penderfyniad i roi terfyn ar fy nghontract gyda’r clwb cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau, er mwyn rhoi cyfle i mi symud ymlaen rhywle ym myd pêl-droed a pharhau â fy ngyrfa.”

Mae Joe Ledley, a oedd wedi cael cyfnodau yng Nghaerdydd, Celtic a Crystal Palace, wedi ennill 77 cap dros Gymru ers 2005.