Casnewydd 0–0 Port Vale                                                               

Gorffennodd hi’n gyfartal ddi sgôr wrth i Gasnewydd groesawu Port Vale i Rodney Parade yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Y blaenwr cartref, Jamille Matt, a gafodd y gorau o’r cyfleoedd yn y ddau hanner ond aros yn ddi sgôr a wnaeth hi.

Gorffennodd yr ymwelwyr y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch hwyr i James Gibbons am drosedd wael ar Dan Butler ond roedd hi’m rhy hwyr i’r alltudion gymryd mantais.

Mae’r pwynt yn codi tîm Mike Flynn un lle i’r trydydd safle ar ddyg yn y tabl.

.

Casnewydd

Tîm: Townsend, Demetriou, Poole, Bennett, Willmott (Dolan 57’), Bakinson (Sheehan 81’), O’Brien, Labadie (Marsh-Brown 70’), Butler, Matt, Amond

Cerdyn Melyn: Willmott 45+2’

.

Port Vale

Tîm: Brown, Gibbons, Smith, Rawlinson, Clark, Crookes, Kay, Joyce, Harris, Hannant (Elliott 45’), Oyeleke

Cerdyn Melyn: Hannant 45’

Cerdyn Coch: Gibbons 85’

.

Torf: 2,534