Mae Michael Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn dweud bod y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Middlesbrough yng Nghwpan FA Lloegr yn Stadiwm Riverside ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 26) yn “anhygoel”.

Rhwydodd Matthew Dolan yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau er mwyn sicrhau y bydd yn rhaid ailchwarae’r gêm yn Rodney Parade.

Trwy gyd-ddigwyddiad – neu ffawd – daeth gôl Casnewydd gan y chwaraewyr a ddatblygodd ei ddoniau yn nhimau ieuenctid Middlesbrough cyn gadael am Bradford yn 2014.

Aeth y Saeson ar y blaen ar ôl 50 munud diolch i gôl yr amddiffynnwr Daniel Ayala.

‘Oedi’

Ond fe fu bron i Michael Flynn wneud tro pedol a pheidio â dod â Matthew Dolan i’r cae yn eilydd yn dilyn problem gyda’i esgidiau.

“Dw i ddim yn feddal, ond mae gyda fi rywfaint o sentiment ac fe ddywedais i wrth fy nghynorthwyydd, “Edrycha, rhaid i ni roi gêm iddo fe gan mai hwn yw ei glwb cartref”.

“Ro’n i’n meddwl am yr ansawdd sydd ganddo fe yn ei droed chwith a phe baen ni’n cael chwarae gosod, y byddai’n gallu sgorio, a dyna wnaeth e.

“Ond fe wnaeth e roi pen tost i fi oherwydd doedd ei sanau ddim yn barod. Doedd e ddim wedi rhoi’r tâp yn iawn arnyn nhw, felly wnaeth e gymryd mwy o amser nag yr oedd e ei eisiau.

“Fe gawson ni ambell air amheus, ond mae’r cyfan wedi cael ei anghofio erbyn hyn.”

Dathliadau

Cyn y gêm hon, roedd Casnewydd eisoes wedi curo Leicester City yn y gystadleuaeth, ac roedd mwy na 1,000 o gefnogwyr wedi teithio i ogledd-ddwyrain Lloegr i wylio’r gêm ddoe.

“Mae’n anhygoel. Allech chi ddim ysgrifennu’r peth,” meddai Michael Flynn.

“Mae’r boi a sgoriodd yn gynt o Boro ac yn foi o Middlesbrough, a dw i ddim yn credu ei fod e erioed wedi sgorio gôl yn y cwrt cosbi – mae’n stori dylwyth teg, mewn gwirionedd.”

Teyrnged gan un arall o Gasnewydd

Ar ddiwedd y gêm, roedd Tony Pulis, rheolwr Middlesbrough sy’n enedigol o Gasnewydd, ymhlith y rhai oedd wedi talu teyrnged i’r Cymry.

“Dw i’n credu eu bod nhw wedi chwarae’n llawn ysbryd ac ymdeimlad o fod gyda’i gilydd, ac maen nhw’n haeddu’r holl glod y byddan nhw, gobeithio, yn ei gael.

“Y siom i fi ar y cyfan oedd nad oedden ni wedi’u hatal nhw rhag croesi’r bêl – roedd fel pe baen ni’n fodlon iddyn nhw ei rhoi hi yn y cwrt cosbi ac roedd llawer o achlysuron lle gallen ni fod wedi taflu ein cyrff yn y ffordd.”