Mae golwr Cymru a Crystal Palace, Wayne Hennessey, wedi cael ei gyhuddo o dorri rheolau Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ar ôl iddo ‘wneud arwydd Natsïaidd’ honedig mewn llun sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r chwaraewr 31 oed yn gwadu gwneud yr arwydd yn y llun a gafodd ei gyhoeddi ar Instagram gan yr Almaenwr, Max Meyer, wrth i chwaraewyr Crystal Palace ddathlu eu buddugoliaeth dros Grimbsy yng Nghwpan yr FA ddechrau’r mis.

Yn ôl Wayne Hennessey, roedd yn galw ar y ffotograffydd i frysio wrth dynnu llun, a bod unrhyw debygrwydd i arwydd Natsïaidd yn “gyd-ddigwyddiad llwyr”.

Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn cyhuddo’r golwr o dorri rheolau sy’n ymwneud ag ymddygiad sarhaus ac anaddas sy’n dwyn anfri ar y gamp.

Maen nhw hefyd yn honni ei fod wedi torri’r rheolau gan ei fod yn cynnwys cyfeiriad at gredo, hil neu grefydd.

Mae gan Wayne Hennessey tan Ionawr 31 i ymateb i’r cyhuddiad, meddai’r gymdeithas ymhellach