Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi gêm gyfeillgar ryngwladol yn erbyn Belarws ar ddydd Mawrth, Medi 10.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal bedwar diwrnod ar ôl i dîm y rheolwr Ryan Giggs groesawu Azerbaijan i Stadiwm Dinas Caerdydd mewn gem gymhwyso Ewro 2020 ar ddydd Gwener, Medi 6.

Mae Cymru a Belarws wedi cyfarfod pedair gwaith o’r blaen. Roedd y cyntaf yn 1998 ble sgoriodd cyn-reolwr Cymru, Chris Coleman, a’i gynorthwyydd Kit Symons, mewn buddugoliaeth 3-1 Ym Mharc Ninian, Caerdydd.

Fe sgoriodd rheolwr presennol Cymru, Ryan Giggs, hefyd yn erbyn Belarws yn ystod yr ymgyrch honno i gymhwyso i’r Ewros mewn buddugoliaeth 2-1 i Gymru yn Stadyjon Dynama ym Minsk, prifddinas Belarws.

Bydd y gêm gyfeillgar hon yn dod ar amser pwysig i dîm Cymru gan nodi union hanner ffordd ar linell amser ymgyrch cymhwyso Cymro i Ewro 2020.

Bydd Ryan Giggs a’i chwaraewyr yn gobeithio sicrhau safle yn y bencampwriaeth sy’n cael ei chwarae ar draws rhai o wledydd cyfandir Ewrop am y tro cyntaf.