Cafodd Mark Hudson, cyn-gapten tîm pêl-droed Caerdydd, siom wrth i Huddersfield golli o 3-0 yn erbyn Manchester City y prynhawn yma (dydd Sul, Ionawr 20).

Mae e yng ngofal y tîm dros dro yn dilyn ymadawiad David Wagner yr wythnos ddiwethaf.

Roedd Pep Guardiola, rheolwr Man City, wedi cyfaddef ar drothwy’r gêm nad oedd e’n gwybod beth i’w ddisgwyl gan dîm Mark Hudson.

Rhwydodd Danilo o bell ar ôl 18 munud i roi Man City ar y blaen, ac fe sicrhaon nhw’r fuddugoliaeth gyda dwy gôl o fewn tair munud yn yr ail hanner.

Daeth y gyntaf ohonyn nhw gan Raheem Sterling ar ôl 53 munud yn dilyn croesiad gan Madio Sané, cyn i’r un a groesodd rwydo trydedd gôl ei dîm funudau’n ddiweddarach.