Mae pryderon y gallai Joe Rodon, amddiffynnwr Abertawe, fod allan am hyd at chwe wythnos ar ôl torri asgwrn yn ei droed.

Roedd y Cymro ar gae’r Liberty am 20 munud yn unig yn erbyn Sheffield United brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 19) cyn iddo orfod gadael am driniaeth.

Mae Graham Potter, rheolwr yr Elyrch, wedi cadarnhau’r newyddion am yr anaf.

“Mae e wedi torri metatarsol, ac felly bydd e ma’s am chwe wythnos,” meddai.

Mae Joe Rodon yn ymuno â rhestr o chwaraewyr sydd wedi’u hanafu sy’n cynnwys yr asgellwr Wayne Routledge a’r ymosodwr Wilfried Bony.

Cafodd Wayne Routledge ei dynnu oddi ar y cae yn ystod yr egwyl yn sgil anaf i groth ei goes, tra bod disgwyl i Wilfried Bony, oedd allan o’r garfan yn llwyr, ddychwelyd i’r cae ymarfer yr wythnos nesaf ar ôl anafu ei ben-glin.