Met Caerdydd 2–0 Cambrian a Clydach                                    

Met Caerdydd yw enillwyr Cwpan Nathaniel MG ar ôl curo Cambrian a Clydach yn y rownd derfynol ar Barc Jenner, Y Barri, nos Sadwrn.

Sgoriodd Adam Roscrow ddwy waith wrth i’r myfyrwyr drechu’r tîm o Adran Un Cynghrair Bêl Droed Cymru.

Met Caerdydd a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf heb os ond fe ddylai Cambrian a Clydach fod wedi cael cic o’r smotyn pan lawiodd Bradley Wooldridge yn y cwrt cosbi. A bu bron iddynt agor y sgorio hefyd pan geisiodd Corey Shepherd ei lwc o’i hanner ei hun wedi ychydig dros hanner awr.

Ond y myfyrwyr a oedd yn haeddu bod ar y blaen ar yr egwyl ac felly yr oedd hi diolch i gôl gyntaf Roscrow, y blaenwr yn gorffen yn daclus i’r gornel isaf wedi i Chris Baker ennill y meddiant yng nghanol cae.

Mantais haeddiannol i’r tîm o’r Uwch Gynghrair ar hanner amser ond roedd eu gwrthwynebwyr o’r ail haen fel tîm gwahanol ar ôl troi.

Gorfod Cameron Keetch rbediad da gan Alex Lang gydag ergyd o bellter a peniodd Richard French dros y trawst wedi i groesiad hyfryd Shepherd ei rhoi hi ar blât iddo.

Gwastraffwyd cyfle gorau’r tîm o Gwm Rhondda serch hynny gan Kyle Jones pan anelodd foli ym mhell dros y trawst o dair llath.

Gyda’r eiliadau yn diflannu fe daflodd Cambrian a Clydach pawb i fyny’r cae, gan gynnwys y golwr, Daniel Bradley. A phan wrthymosododd Met Caerdydd fe lwyddodd Roscrow i ganfod rhwyd wag o ddeugain llath a mwy.

Doedd dim amheuaeth amdani wedi hynny ac enw Met a oedd ar dlws Cwpan Nathaniel MG.

.

Met Caerdydd

Tîm: Lang, Rees, McCarthy, Woolridge, Lewis, E. Evans, Baker, Roscrow, Corsby (Phillips 78’), W. Evans, Edwards

Goliau: Roscrow 40’, 90+4’

Cardiau Melyn: Corsby 50’, Lang 90+1’

.

Cambrian a Clydach

Tîm: Bradley, Evans, Coles, Thomas, K. Jones (M. Jones 84’), Shepherd, Rees, French (Strinati 60’), Crutch, S. Jones (Edwards 78’), Keetch

Cardiau Melyn: French 44’, Thomas 63’

.

Torf: 1,503