Fylde 2–0 Wrecsam                                                                           

Llithrodd Wrecsam ym mhellach i lawr tabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr wrth golli yn erbyn Fylde ym Mill Farm brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Ashley Hemmings ddwy waith wrth i’r Dreigiau golli am y bedwaredd gêm yn olynol yn y gynghrair.

Agorodd Hemmings y sgorio ym munud olaf yr hanner cyntaf gydag ergyd nerthol a oedd yn rhy boeth i Rob Lainton yn y gôl.

Ychwanegodd yr ymosodwr ei ail ef ac ail ei dîm yn gynnar yn yr ail gyfnod, yn gorffen yn dda wedi gwrthymosodiad effeithiol.

Mae’r canlyniad yn codi Fylde dros Wrecsam yn y tabl wrth i’r Dreigiau lithro i’r pumed safle. Yr unig newyddion da i dîm Graham Barrow yw i Leyton Orient golli hefyd gan olygu mai dim ond pedwar pwynt sydd yn gwahanu’r pump uchaf.

.

Fylde

Tîm: Lynch, Byrne, Bradley, Hemmings, Tunnicliffe, Birch (Brewitt  80’), Montrose (Philliskirk 42’), Haughton (Bond 80’), Croasdale, Rowe, Odusina

Goliau: Hemmings 44’, 54’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Pearson, Walker, Carrington, Summerfield, Rutherford, Wright, Lawlor, Beavon (Pyke  52’), Grant (Stockton 65’)

Cerdyn Melyn: Young 75′

.

Torf: 2,912