Fe fydd tîm pêl-droed Cambrian a Clydach yn herio Met Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ar Barc Jenner yn Y Barri heno (nos Sadwrn, 7.30yh).

Fe allai Cambrian a Clydach greu hanes pe baen nhw’n ennill y gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed.

Does neb o’r tu allan i’r Uwch Gynghrair wedi ei hennill o’r blaen.

Ac maen nhw eisoes wedi creu argraff drwy guro’r deiliaid, Y Seintiau Newydd, yn y rownd gyntaf.

Ond bydd rhaid iddyn nhw guro’r tîm arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar Goedlan y Parc y tymor diwethaf.