Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd gam yn nes at arwyddo Emiliano Sala o Nantes.

Fe gwblhaodd yr Archentwr brawf meddygol ddoe (dydd Gwener, Ionawr 18), ond roedd yn rhy hwyr i sicrhau ei fod e’n cyrraedd cyn y gêm yn erbyn Newcastle heddiw.

Daw’r newyddion ddyddiau’n unig yn dilyn ansicrwydd a fyddai’r ymosodwr 28 oed yn symud i Gymru am ffi o ryw £15m, sy’n torri record Caerdydd.

Mae’r Adar Gleision eisoes wedi benthyg Oumar Niasse, y chwaraewr canol cae o Everton, tan ddiwedd y tymor.

Fe fu oedi cyn cwblhau’r trafodaethau gydag Emiliano Sala, am fod Nantes yn disgwyl iddo chwarae yn eu gêm yn Angers dros y penwythnos.

‘Mae angen ymosodwyr arnon ni’

Tra bod Neil Warnock, rheolwr Caerdydd, yn cyfaddef fod y swm o £15m yn un sylweddol, mae’n dweud bod angen ymosodwyr ar y clwb.

“Ond pan ydych chi’n edrych ar y Bencampwriaeth, dyna gost ymosodwyr,” meddai.

“Dw i’n ei hoffi fe, mae e’n gweithio’n galed.

“Fydd e ddim yn bwrw waliau i lawr ar unwaith, ond mae angen ymosodwyr arnon ni.

“Dyna fydd y gwahaniaeth ar ddiwedd y tymor, pa un a allwn ni sgorio digon o goliau.”

Ond fe fydd Neil Warnock hefyd yn chwilio am gefnwr de a chwaraewr canol cae arall cyn i’r ffenest drosglwyddo gau, a hynny ar ôl colli’r cyfle i arwyddo Nathaniel Clyne, sydd wedi symud at Bournemouth ar fenthyg o Lerpwl.