Lai na munud i mewn i’r gêm yn erbyn Mansfield daeth bloedd anhygoel wrth i Neil Ashton ddisgyn yn y cwrt cosbi. Chwythwyd y chwiban, ond i anghrediniaeth llwyr chwaraewyr Wrecsam pwyntiodd y dyfarnwr at safle tu allan i’r cwrt.

Cymrodd Lee Fowler gic rydd odidog ac arbedodd y golwr yn gelfydd.

Roedd Mathew Green yn chwarae fel ymosodwr i Mansfield. Roedd ar ben ei hun drwy gydol y gêm ond roedd yn gryf ac yn gyflym. Perodd drwbl i’n dau amddiffynnwr canol trwy gydol y gêm.

Enillodd Green ddegau o giciau rhydd, ac o un o’r ciciau rhydd hynny wedi  tua 40 munud fe beniodd Danny Wright y bêl i’w rwyd ei hun.

Methodd Wrecsam hanner cyfle ar ôl hanner cyfle. Ni chreodd Mansfield ar y llaw arall yr un cyfle call tan yr ail funud amser wedi’i ychwanegu am anafiadau munud!

Roedd yn boenus gweld Wrecsam yn cael y meddiant a’r cyfleoedd ond ddim yn gallu sgorio tra bod y tîm arall yn amddiffyn gyda deg dyn a’i tharo i Green.

Poen yw Pogba

Ro’n i’n eistedd mewn sedd dda ac yn gallu gwylio Mathias Pogba, a oedd yn chwarae ar ochr dde’r cae, yn ofalus am y mwyafrif o’r hanner cyntaf.

Mae ei gyffyrddiad cyntaf yn ofnadwy. Dwi’n amau os weithiodd unrhyw beth y gwnaeth trwy gydol y gêm – roedd pen Morrell yn ei ddwylo wedi pob cyffyrddiad gan Pogba.

Petawn i’n rheolwr fe fyddwn i’n cael gwared arno oherwydd mae fel chwarae gyda 10 dyn pan mae o ar y cae.

Pan godwyd y rhif 24 gan y dyfarnwr cynorthwyol (welodd y dyfarnwr mohono am ryw 4 munud) cychwynnodd Pogba chwarae’n wych gan redeg at y gwrthwynebwyr.

Rhedodd heibio i bedwar amddiffynnwr ac i mewn i’r cwrt cosbi a tharodd bas tuag at Speight yn lle mynd am gôl ei hun. Rwy’n meddwl y byddai wedi sgorio petai wedi ergydio.

Pe byddai’n chwarae fel hyn trwy gydol y gêm byddai gennym andros o chwaraewr ond mae’n rhaid i’r rheolwr gael y gorau ohono rywsut.

Gwrando ar yr alwad

Yn yr ail hanner cododd Lee Fowler y bêl tua hanner ffordd, ‘dos ar ben dy hun’  gwaeddais gan ei fod yn pasio’r bêl fel arfer. Mae’n rhaid ei fod wedi clywed (er nad yw yn siarad Cymraeg hyd y gwn i) gan iddo redeg tua’r gôl a’i tharo ergyd wych o 25 llath i gornel y rhwyd.

‘ Danin mynd i ennill hon rŵan’ medda’ fi wedyn – mae’n rhaid bod gormod o sŵn gan y dorf oherwydd mae’n amlwg na glywodd neb yr ail waedd!

Diffyg canolbwyntio

Mae timau’n aml iawn yn ildio goliau’n fuan ar ôl sgorio gan nad ydynt yn canolbwyntio.

Dair munud ar ôl sgorio roedd Wrecsam wedi ildio cic o’r smotyn.

Wedi pas hir a pheniad ymlaen gan ymosodwr, roedd Green a Chris Maxwell 50/50 am y bêl yn y cwrt, ond am ryw reswm fe ymbalfalodd Nat Knight-Percial â’r ymosodwr a rhoi cic o’r smotyn i Mansfield.

Teimlai Chris Maxwell bod yr ymosodwr wedi disgyn lawer rhy hawdd. Sgoriodd Green. Gyrrwyd Percival o’r cae am gawod gynnar.

Chwaraeodd Wrecsam yn arbennig o dda ar ôl mynd lawr i ddeg dyn ond ni ddaeth y gôl ac fe sgoriodd Mansfield gyda’u cyfle da cyntaf ar ôl 92 munud wrth i chwaraewyr Wrecsam gymryd risgiau wrth chwilio am gôl.

Doedd dim llawer o ddim yn bod ym mherfformiad Wrecsam, dim ond camgymeriadau a diffyg o flaen y gôl.

Dim panig felly – bydd hwn yn dymor ble bydd llawer o dimau’n curo’i gilydd a bydd yn gyffrous tan y gêm olaf un dwi’n siŵr.