Mae Nathan Blake wedi cael ei feirniadu am ladd ar safon pêl-droed lleol yng Nghymru.

Mae cyn-ymosodwr Cymru hefyd yn gyn is-reolwr ar dîm Goytre yn Sir Fynwy, sy’n chwarae yn adran gyntaf cynghrair bêl-droed Cymru.

Roedd yn cymryd rhan yn rhaglen alwadau ‘Call Rob Phillips’ ar Radio Wales brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 13) pan awgrymodd fod gan bobol “bethau eraill i’w gwneud”, gan gynnwys “mynd â’r wraig i’r sinema” na mynd i wylio’u clybiau lleol.

Cafodd ei grybwyll yn ystod y rhaglen fod cefnogwyr Caerdydd yn diflasu ar berfformiadau’r tîm, a bod yr anfodlonrwydd â pherchnogion Abertawe’n parhau.

‘Ewch i wylio’ch tîm lleol’

Awgrymodd un gwestai, Nick o Rydaman, fod yna ddewis arall i’r cefnogwyr hynny – mynd i wylio’u clwb lleol.

Roedd Rhydaman newydd guro Goytre o 4-3.

“Mae yna ddewis amgen.

“Dw i am atgoffa pobol yng Nghymru fod gennym ein trefn ddomestig ein hunain.

“Gadewch i ni beidio ag anghofio heddiw, o fuddugoliaeth wych Rhydaman. £5 i fynd i mewn, y cefnogwyr yn canu enwau’r chwaraewyr ac yn eu hadnabod nhw’n bersonol, ac yn unedig yn y dyhead i gynrychioli’r dref.

“Mae gyda chi bobol ym mhob cwr o Gymru’n eistedd yn y tŷ, ddim yn gwylio Caerdydd, yn aros i’r canlyniadau ddod i mewn, ac mae angen eu cefnogaeth ar eu trefi.

“Os ydych chi wedi diflasu ar dalu £30 i fynd i wylio tîm ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig, ewch i wylio’ch tîm lleol.”

Ymateb Nathan Blake

“Mae pobol yn cefnogi pwy bynnag maen nhw’n ei gefnogi,” meddai Nathan Blake wrth ymateb.

“Os yw eich tîm oddi cartref ac os nad ydych chi’n mynd i wylio pêl-droed, mae yna bethau eraill i’w gwneud hefyd.

“Mae’n bosib y byddwch chi am fynd i dreulio amser gyda’ch plant neu fynd â’r wraig i’r sinema neu rywbeth arall.”

Dywedodd y cyflwynydd Rob Phillips wrth ymateb fod yr awgrym yn “chwerthinllyd”, ac fe ymddiheurodd ar ddiwedd y drafodaeth.

Ond fe wnaeth Nathan Blake amddiffyn ei sylwadau ymhellach, gan ddweud bod angen i’r clybiau wneud mwy o ymdrech i ddenu cefnogaeth.

“Dw i’n gwybod tipyn amdanyn nhw, ar ôl treulio amser yn Goytre, a dw i’n gwybod mai fy nghlwb lleol yw’r Fenni,” meddai wedyn.

“Ond mae angen i dipyn o bethau wella ar draws y cynghreiriau er mwyn ennill mwy o gefnogaeth.

“Mae pobol yn anwadal y dyddiau hyn. Dydyn nhw ddim yn mynd i droi i fyny i’w tref leol.

“Fe fydd angen gwneud pethau sy’n mynd i’w denu nhw ymhellach hefyd.”

Ymateb i’r sylwadau ar Twitter

Mae pobol wedi bod yn ymateb i’r drafodaeth ar Twitter, gan feirniadu sylwadau Nathan Blake.