Crewe 3–2 Casnewydd                                                                     

Sgoriodd Crewe ddwy gôl hwyr i drechu Casnewydd ar Gresty Road yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Alltudion ar y blaen gyda thri munud o’r naw deg yn weddill cyn i’r tîm cartref rwydo ddwywaith i gipio’r pwyntiau i gyd.

Roedd Crewe ar y blaen ar yr egwyl diolch i gôl Jordan Bowery ddeg munud cyn troi, yr ymosodwr yn gorffen yn dda heibio i Joe Day wedi gwaith creu Perry Ng a Chris Porter.

Unionodd Antoine Semenyo’r sgôr gydag ergyd dda ugain munud wedi’r egwyl cyn i Pdraig Amond roi’r Cymry ar y blaen chwarter awr o’r diwedd.

Ni wnaeth Crewe roi’r ffidl yn y to ac roeddynt yn gyfartal ddau funud o ddiwedd y naw deg diolch i gic o’r smotyn Porter yn dilyn trosedd Dan Butler.

Ac roedd mwy i ddod wrth i gôl flêr Callum Ainley ei hennill hi i’r tîm cartref yn yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd yn drydydd ar ddeg yn nhabl yr Ail Adran, wyth pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Crewe

Tîm: Garratt, Ng, Ray, Hunt (Finney 83’), Pickering, Ainley (Raynes 90+4’), Jones, Wintle, Bowery, Porter, Kirk

Gôl: Bowery 34’, Porter [c.o.s.] 88’, Ainley 90+2’

Cerdyn Melyn: Ray 69’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Franks, Bennett, Demetriou, Hornby-Forbes, Dolan (Bakinson 58’), Willmott (O’Brien 90+1’), Semenyo (Sheehan 81’), Butler, Amond, Matt

Gôl: Semenyo 65’, Amond 76’

Cardiau Melyn: Matt 72’, Semenyo 74’

.

Torf: 3,104