Preston 1–1 Abertawe                                                                     

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Abertawe ymweld â Deepdale i herio Preston North End yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Daeth y ddwy gôl yn agos at ei gilydd yn yr ail hanner, Baker-Richardson yn rhoi’r Elyrch ar y blaen cyn i Johnson gipio pwynt i Preston, a orffennodd y gêm gyda deg dyn.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe aeth yr ymwelwyr o dde Cymru ar y blaen ddeg munud wedi’r egwyl, Courtney Baker-Richardson yn rhwydo wedi gwaith creu da Wayne Routledge a Bersant Celina.

Am bum munud yn unig yr arhosodd hi felly cyn i Daniel Johnson unioni o’r smotyn yn dilyn llawiad honedig Connor Roberts yn y cwrt cosbi.

Cafodd Josh Earl ei anfon oddi ar y cae wedi hynny ar ôl derbyn dau gerdyn melyn ond wnaeth hynny ddim effeithio’r canlyniad.

Mae’r pwynt yn cadw tîm Graham Potter yn y tryydd safle ar ddeg yn y tabl.

.

Preston

Tîm: Rudd, Clarke (Fisher 67’), Huntington (Earl 45’), Storey, Hughes, Johnson (Maguire 74’), Pearson, Potts, Browne, Barkhuizen, Stockley

Gôl: Johnson [c.o.s.] 60’

Cardiau Melyn: Earl 72’, 81’

Cerdyn Coch: Earl 81’

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Naughton (McKay 89’), van der Hoorn, Rodon, Roberts, Fer, Grimes, Dyer (Montero 84’), Celina, Routledge, Baker-Richardson (Bony 75’)

Gôl: Baker-Richardson 55’

Cardiau Melyn: Fer 45+3’, van der Hoorn 59’, Baker-Richardson 62’

.

Torf: 11,604