Caerdydd 0–0 Huddersfield                                                           

Gêm gyfartal ddi sgôr a oedd hi wrth i Gaerdydd groesawu Huddersfield i Stadiwm y Ddinas ar gyfer brwydr tua gwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.

Roedd y gêm hon yn gyfle gwych i’r Adar Gleision roi ychydig o olau dydd rhyngddynt a’r tri isaf ond colli’r cyfle a wnaeth tîm Neil Warnock gyda phwynt yn unig yn erbyn y tîm sydd ar waelod y tabl.

Ni chafwyd cyfleodd gwerth sôn amdanynt mewn gêm hynod ddiflas a daeth yr unig ddigwyddiad o bwys chwarter awr o’r diwedd.

Dyfarnodd Lee Mason gic o’r smotyn i Huddersfield am drosedd honedig Joe Bennett ar Florent Hadergjonaj, dim ond i’w ddyfarnwyr cynorthwyol, Stuart Burt, ei berswadio i newid ei feddwl!

Gêm ddi sgôr amdani felly a gêm i’w anghofio, ond canlyniad sydd yn ddigon i gadw Caerdydd bwynt yn glir o safleoedd y gwymp.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Gunnarsson, Mendez-Laing (Healey 73’), Camarasa (Ralls 64’), Arter, Hoilett, Paterson

Cardiau Melyn: Arter 33’, Hoilett 71’, Bennett 82’

.

Huddersfield

Tîm: Lossl, Hadergjonaj, Jorgansen, Schindler, Durm, Hogg, Billing, Kachunga, Pritchard, Puncheon (Mbenza 73’), Mounie (Depoitre 87’)

Cerdyn Melyn: Schindler 10’

.

Torf: 30,725