Gillingham 1–0 Caerdydd                                                                

Mae Caerdydd allan o’r Cwpan FA ar ôl colli yn erbyn Gillingham yn y gêm drydedd rownd yn Stadiwm Priestfield brynhawn Sadwrn.

Roedd gôl hwyr Elliot List yn ddigon i’w hennill hi i’r tîm o’r Adran Gyntaf.

Yr ymwelwyr o Gymru a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond di sgôr a oedd hi wrth droi.

Yr Adar Gleision a ddechreuodd yr ail hanner orau hefyd gyda Nathaniel Mendez-Laing yn dod yn agos at agor y sgorio pan darodd y trawst.

Ond daeth Gillingham yn fwyfwy i’r gêm wrth i’r ail hanner fynd rhagddo ac fe ddaeth y gôl holl bwysig ddeg munud o’r diwedd, Elliott List yn rhwydo o ochr y cwrt cosbi wedi i amddiffyn Caerdydd, a Sean Morrison yn benodol, ddod i stop yn aros am chwiban gan y dyfanrwr.

Daeth Callum Reilly’n agos at ddyblu’r fantais pan wyrodd ei ergyd yn erbyn y trawst ond roedd y Gills wedi gwneud digon i’w hennill hi.

Bydd golygon Neil Warnock a’i dîm yn troi yn ôl at Uwch Gynghrair Lloegr yn awr a’r frwydr i osgoi’r gwymp.

.

Gillingham

Tîm: Holy, Lacey, Zakuani, Ogilvie, O’Neill, Byrne, Reilly, Garmston, Parker, List, Eaves

Gôl: List 81’

Cardiau Melyn: Zakuani 49’, Parker 90+3’

.

Caerdydd

Tîm: Smithies, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Mendez-Laing, Damour (Hoilett 90+3’), Ralls, Harris (Murphy 54’), Paterson, Reid (Ward 74’)

.

Torf: 7,090