Mae hi’n argoeli i fod yn gêm fawr ar nos Sadwrn, Ionawr 26, yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru rhwng dau o glybiau mwyaf y gogledd orllewin.

Tydi Bangor a Chaernarfon heb chwarae ei gilydd yng Nghwpan Cymru ers 1998, pan enillodd y Dinasyddion 2-0 gartref yn Farrar Road.

Y tro diwethaf i’r ddau fynd wyneb yn wyneb oedd yng Nghwpan y Gynghrair yn Nant Porth yn 2015, ble enillodd y tîm oddi gartref, Caernarfon.

Roedd torf o dros 1,000 yn gwylio’r gêm honno, ac maen debygol y bydd cefnogwyr yn dod yn eu heidiau unwaith eto ar gyfer y gêm ddiwedd y mis yma.

Y llanw wedi troi

Hwn fydd y gêm gyntaf rhwng y ddau glwb pan mae Caernarfon yn chwarae ar lefel uwch na Bangor.

Ar hyn o bryd mae’r Caneris yn chweched yn Uwch Gynghrair Cymru ac wedi creu argraff y tymor hwn wrth ennill yn erbyn timau cryf fel TNS, Cei Connah a Met Caerdydd.

Mae’n adlewyrchiad o gyfnod llwyddiannus diweddar yn yr Ofal ar ôl cael dyrchafiad ar ddiwedd tymor 2018.

Mae pethau wedi bod ychydig yn wahanol i i’r Dinasyddion ym Mangor, gyda phroblemau ariannol yn arwain at syrthio i Gynghrair Cymru’r llynedd.

Trydydd yn y gynghrair ydyn nhw yn y gynghrair honno o dan arweiniad Gary Taylor-Fletcher.

Fodd bynnag, er gwaethaf y gwahaniaeth yn llwyddiant y ddau dîm y tymor hwn, mae naws wahanol yn bodoli yn y gwpan.

Gyda’r Caneris ar y droed flaen, ond y Dinasyddion yn berchen ar record ryfeddol yng Nghwpan Cymru, ni fydd yr un o’r ddau yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol yn un o gemau mwyaf pêl-droed Cymru.

Gwyliwch y gêm ar Sgorio, S4C, am 7.30 nos Sadwrn (Ionawr 26).