Caerfyrddin 2–0 Llanelli                                                                  

Rhoddodd Caerfyrddin fwlch iach rhyngddynt eu hunain a dau isaf Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth dros Lanelli nos Fawrth.

Sgoriodd Luke Bowen ddwy waith wrth i’r Hen Aur ennill y gêm ddarbi ar Barc Waun Dew.

Saith munud yn unig a gymerodd hi i Gaerfyrddin fynd ar y blaen gyda pheniad Bowen o gic gornel Sean Hanbury.

Cafodd cynnig Lee Surman ei glirio oddi ar y llinell wedi hynny ac roedd angen arbediad da gan Oliver Davies i atal Bowen rhag rhwydo’i ail.

Dim ond un gôl ynddi ar yr hanner felly ond roedd y gagendor rhwng y timau yn llawer mwy mewn gwirionedd a doedd fawr o syndod gweld y tîm cartref yn dyblu’r fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Greg Walters a oedd yn rhedeg y sioe yng nghanol cae a phas dreiddgar gan y chwaraewr canol cae a greodd y gôl i Bowen, y blaenwr yn curo Davies i rwydo’i ail ef ac ail ei dîm.

Gwnaeth Davies arbediadau da i atal Liam Thomas a Walters rhag ychwanegu trydedd wedi hynny ond roedd y tîm cartref wedi gwneud hen ddigon i ennill y gêm.

Mae’r canlyniad yn codi Caerfyrddin i’r nawfed safle yn y tabl ac yn cadw Llanelli’n unfed ar ddeg, gyda naw pwynt yn gwahanu’r timau erbyn hyn.

.

Caerfyrddin

Tîm: Idzi, Cummings (Vickers 88’), Knott, Vincent, Surman, Walters, Bowen, Morgan, Davies, Hanbury (O’Kelly), Thomas

Goliau: Bowen 7’, 53’

.

Llanelli

Tîm: Davies, Finselbach, March (Nelson 66’), Tancock, Jones, Davies, Follows, Loveridge, Alfei, Owen, George

Cardiau Melyn: March 11’, Tancock 21’, Finselbach 37’, Follows 49’

.

Torf: 413