Salford 2–0 Wrecsam                                                                        

Colli a fu hanes Wrecsam wrth iddynt deithio i Moor Lane i herio Salford yn y frwydr tua brig Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar Ddydd Calan.

Cafodd Wrecsam fuddugoliaeth dda yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ar ddydd Gŵyl San Steffan ond llwyddodd Salford i ddial ar y Dreigiau gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn y gêm gyfatebol chew diwrnod yn ddiweddarach.

Foli flêr Matt Green a roddodd yr ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Roedd Wrecsam yn well ar ôl troi ond sgoriodd Rory Gaffney yn erbyn llif y chwarae i sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm ar yr awr.

Mae’r tîm o Gymru’n aros yn ail yn y tabl er gwaethaf y golled ond mae’r bwlch rhyngddynt a Leyton Orient ar y brig yn ôl i bedwar pwynt. Pwynt yn unig sydd bellach yn eu gwahanu a Salford yn y trydydd safle.

.

Salford

Tîm: Neal, Wiesman, Touray, Pond, Piergianni, Hogan, Nolan, Whitehead, Walker, Gaffney (Brockbank 85’), Green (Dieseruvwe 85’)

Goliau: Green 23’, Gaffney 60’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Jennings, Pearson, Wright (Young 56’), Carrington (Roberts 67’), Lawlor, Walker, Summerfield, Rutherford, Grant, Beavon (Tollitt 46’)

Cardiau Melyn: A Pearson 51’, Young 70’

.

Torf: 4,044